Mae rhybudd tywydd melyn wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ar ddydd Sadwrn, 21 Awst.

Fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd y bydd stormydd a glaw trwm yn effeithio ar ardaloedd dwyreiniol o’r wlad rhwng hanner dydd a deg y nos.

Bydd 13 o siroedd yn cael eu heffeithio, sef Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir y Fflint, Torfaen, a Wrecsam.

Mae’n bosib y bydd rhai ardaloedd yn dioddef llifogydd a thoriadau i bŵer a gwasanaethau eraill am gyfnodau byrion.

Fe rybuddion nhw’r rhai sy’n teithio y bydd amodau gyrru’n cael eu heffeithio gan gawodydd o law a chesair, ac mae’n bosib y bydd oedi o ran gwasanaethau trenau hefyd.

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd gofal a chynllunio ymlaen llaw os ydyn nhw am fod allan yn yr awyr agored neu yn teithio ar y ffyrdd.