Mae ffermwr ifanc wedi parhau i godi arian i achosion da ar ôl colli ei fam i Covid-19 y llynedd.
Fe wnaeth Gwyndaf Lewis o Efailwen redeg a beicio 96 milltir mewn tri diwrnod o amgylch holl glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro.
Fe lwyddodd y gŵr 26 oed i gasglu dros £2,000, sydd am gael ei rannu rhwng yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili a’r Ffermwyr Ifanc.
Roedd yn barod wedi codi £37,000 ar gyfer yr ysbyty, lle bu farw ei fam, Undeg, yn 59 oed y llynedd ar ôl iddi ddioddef yn wael o Covid-19.
Cefnogaeth yn ‘anghredadwy’
Mae Gwyndaf Lewis eisoes wedi cyflwyno £1,043.63 o’r arian i’r Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili.
“Bob blwyddyn, rydw i’n ymgymryd â nifer o heriau i godi arian mawr ei angen ar gyfer wahanol elusennau sy’n agos at fy nghalon,” meddai.
“Y tro hwn, gosodais yr her i mi fy hun o feicio a rhedeg o amgylch 12 clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro.
“Rydw i mor falch fy mod i wedi codi cymaint o arian ar gyfer yr Uned Gofal Dwys yn Glangwili, lle rhoddodd y staff ofal mor dda i’m mam.
“Mae hon yn gymuned mor ofalgar rydyn ni’n byw ynddi, Efailwen a Chrymych gerllaw.
“Mae’r gefnogaeth a gefais wedi bod yn anghredadwy.”
Fe roddodd Tammy Bowen, Prif Nyrs yr Uned Gofal Dwys, ddiolch i Gwyndaf am ei “haelioni a’i ymroddiad” gan ddweud y bydd yr arian yn help mawr tuag at gyllid i gleifion yn yr uned.