Mae dyn wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio merch 16 oed yn siop tecawe ei theulu yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Wenjing Lin yn siop Blue Sky Chinese yn Ynyswen ger Treorci ar 5 Mawrth eleni.

Fe wnaeth Chun Xu wadu llofruddio Wenjing Lin, a oedd yn ddisgybl ysgol, mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd.

Plediodd yn ddieuog i geisio llofruddio Yongquan Jiang, 38, hefyd.

Siaradodd y dyn 31 oed i gadarnhau ei enw yn unig yn ystod y gwrandawiad.

Mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Abertawe ar 1 Tachwedd.

Wenjing Xu

Teyrngedau i ferch “glên ac angerddol” a lofruddiwyd yn Nhreorci

Bu farw Wenjing Xu yn ystod ymosodiad ym mwyty tecawê ei theulu
Wenjing Xu

Dyddiad wedi’i bennu ar gyfer achos dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 16 oed

Bydd Chun Xu nawr yn ymddangos mewn gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Caerdydd ar 26 Mawrth.