Mae dyddiad wedi’i bennu ar gyfer achos dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 16 oed a fu farw yn dilyn digwyddiad yn siop tecawe Tsieineaidd ei theulu.

Mae Chun Xu, 31, wedi ei gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin – a elwir hefyd yn Wenjing Xu – yn ogystal â cheisio llofruddio dyn 38 oed yn Nhreorci ar Fawrth 5.

Fe ymddangosodd y diffynnydd, sydd heb gartref sefydlog, gerbron Llys y Goron Caerdydd brynhawn Gwener (12 Mawrth).

Fe’i cynorthwywyd gan gyfieithydd a siaradodd dim ond i gadarnhau ei fanylion.

Ni wnaeth Xu roi ple ar gyfer y ddau gyhuddiad yn ei erbyn a chafodd ei gadw yn y ddalfa tan wrandawiad pellach ar 26 Mawrth.

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru ddydd Mercher bod Xu wedi cael ei gyhuddo o’r ddwy drosedd.

Fe ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.

Deellir nad yw’n perthyn i Wenjing.

Cefndir

Cafodd swyddogion eu galw i siop tecawê Blue Sky yn Stryd Baglan ym mhentref Ynyswen tua hanner dydd ar Fawrth 5 yn dilyn adroddiadau am ymosodiad.

Cadarnhawyd marwolaeth Wenjing, a chafodd dau ddyn yn eu 30au eu hanafu hefyd.

Ddydd Mercher, talodd Ysgol Gyfun Treorci deyrnged i Wenjing a’i disgrifio fel “merch garedig, angerddol ac uchelgeisiol”.

Dywedodd yr ysgol fod Wenjing yn “ddisgybl cyfrifol iawn” a oedd yn cyfuno ei huchelgeisiau academaidd â chefnogi ei busnes teuluol.

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y teulu: “Roedd gan Wenjing enaid tyner iawn, roedd hi’n berson tawel iawn.

“Helpodd Wenjing y teulu cyfan, gan weithio yn siop tecawê y teulu.

“Roedd hi’n mwynhau’r ysgol ac yn gweithio’n galed iawn. Roedd ei theulu’n ei charu.”

Bydd Chun Xu nawr yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 26 Mawrth.