Mae achos Sarah Everard wedi sbarduno symudiad sy’n trafod diogelwch merched, gyda gwylnosau wedi’u trefnu mewn nifer o ddinasoedd er cof amdani hi, a menywod eraill sydd wedi cael eu lladd gan ddynion.
Fe ddiflannodd Sarah Everard wrth iddi gerdded adref o fflat ei ffrind yn ne Llundain ddydd Mercher, Mawrth 3.
Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamera yn cerdded am 9.30 ar y nos Fercher.
Nos Fercher (Mawrth 10) cafodd gweddillion dynol eu darganfod mewn coedwig yn Ashford yng Nghaint, ac erbyn hyn mae’r heddlu wedi cadarnhau mai gweddillion Sarah Everard ydyn nhw.
Nos yfory (13 Mawrth), bydd gwylnos #AdennillyStrydoedd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, gan ddechrau ger y Clwb Rygbi ym Mharc Hailey am chwech yr hwyr.
“Roedden ni’n teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth,” meddai un o drefnwyr yr wylnos.
Roedd disgwyl i ddigwyddiad gael ei gynnal yn Clapham Common yn ne Llundain ddydd Sadwrn, ond dywed y trefnwyr eu bod nhw bellach yn ceisio cael cymorth cyfreithiol gan honni bod Heddlu’r Met wedi gwneud tro pedol ar ganiatáu i’r digwyddiad fynd yn ei flaen.
Bydd y digwyddiad yng Nghaerdydd yn cadw at reolau Covid-19, ac yn sicrhau pellter cymdeithasol, meddai’r trefnwyr.
“Rydym ni wedi cael digon”
“Rydym ni’n grŵp cymunedol, ac roedden ni’n trafod y peth, a just wedi blino ac yn teimlo tristwch yr holl sefyllfa,” meddai un o’r trefnwyr, sydd ddim am gael ei henwi, wrth golwg360.
“Fe wnaethom ni ddechrau sylwi ar rai o’r ymatebion oedd yn dod yn sgil achos Sarah Everard, ymatebion ar Trydar gan ddynion yn gofyn yr holl gwestiynau… A beth oedden ni’n holi fel grŵp oedd pam dydyn nhw ddim yn gofyn cwestiynau amdano fe?
“Roedd neges yn dweud na ddylai merched fynd allan, wel, be os fysa ni’n dweud ‘dydi dynion ddim yn cael mynd allan nes bod ni’n ffeindio pwy sydd wedi gwneud hyn’? Pam bod y cyfrifoldeb wastad arnom ni?
“Pan mae yna ddyn yn ymosod ar ddyn arall, does neb yn gofyn beth oedd o’n wisgo, faint oedd o wedi bod yn yfed.
“Mae’r holl gwestiynau yn awgrymu bod bai ar y ferch, ac yn awgrymu y dylai hi fod wedi meddwl yn fwy gofalus er mwyn osgoi beth ddigwyddodd, yn lle bod y cyfrifoldeb ar yr ymosodwr – ac rydym ni just wedi cael digon ar hynna.
“Dim ots beth rydan ni’n ei wneud, mae dal yn mynd i ddigwydd. A dim ein cyfrifoldeb ni nag ein bai ni yw hynny.”
97% o ferched 18-24 oed wedi cael eu haflonyddu yn rhywiol
Dros y dyddiau diwethaf, mae nifer fawr o fenywod wedi bod yn trydar ynghylch eu profiadau yn dioddef cael eu haflonyddu a’u cam-drin gan ddynion.
Daw hyn wrth i archwiliad gan UN Women UK ddangos bod 97% o ferched rhwng 18 a 24 oed yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol, tra bod 80% o fenywod o bob oed wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol mewn mannau cyhoeddus.
Ac mae trefnydd yr wylnos yng Nghaerdydd yn adnabod y darlun ddaw o’r archwiliad.
“Be wnaethon ni wedyn, yn naturiol yn y sgwrs, oedd dechrau dod lan efo pethau sydd wedi digwydd i ni, ac roedd o’n frawychus. Just grŵp ‘normal’ o ferched, rhai ohonom ni’n famau, rhai ohonom ni ddim. Bob math ohonom ni. Ac roedd gennym ni gyd straeon,” meddai.
“Dw i’n mynd i redeg [i gadw yn heini], ac yn amlwg y neges yw na ddylem ni redeg yn y nos, ond hyd yn oed pan dw i wedi bod yn rhedeg yn y dydd mae’n digwydd.
“Es i i redeg un tro ac roedd fy merch fach i ar ei beic efo fi, a gwaeddodd criw o ddynion arna i gan ddweud pethau annifyr ac anweddus. Roedd fy merch i’n bump oed ar y pryd.
“Tro arall, ges i rywun yn taro fi ar fy mhen-ôl, ac roedd hynny yn Hailey Park yng nghanol dydd. Dw i wedi cael rhywun arall yn sôn am fy mronnau i wrth i fi redeg heibio. Mae y rhain gyd yn bethau sydd wedi digwydd i fi.”
“Rhaid i ni wneud rhywbeth”
Ynghyd ag amlygu pa mor aml mae merched yn dioddef aflonyddu a cham-drin rhywiol, mae achos Sarah Everard wedi dangos y camau mae merched yn gorfod eu cymryd er mwyn ceisio cadw’n sâff, meddai trefnydd yr wylnos.
“Dw i’n gwneud yn siŵr, heb i fi ddweud wrth neb, heb i fi ddweud wrth fy ngŵr… yn fy mhen dw i’n gwneud yn siŵr bod dim patrwm rhedeg gyda fi. Pan dw i’n mynd i redeg dw i’n gwneud siŵr mod i ddim yn dilyn yr un ffordd, rhag ofn bod patrwm yn ymddangos y gallai rhywun ei ddilyn.
“A dw i ddim yn dweud hynny wrth neb, achos dw i’n teimlo fel fy mod i’n bod yn ddramatig, neu fy mod i’n mynd dros ben llestri. Ond y gwir yw, dw i ddim yn [bod yn ddramatig].
“Mae’r rhain i gyd yn bethau rydym ni’n eu gwneud o ddydd i ddydd heb ddweud wrth neb, a ddyla bod ni ddim yn gorfod.”
Aeth y fam ati i drefnu gwylnos.
“Felly, fe ddaeth y syniad i wneud rhywbeth yn lleol, gan gadw at reolau Covid, i ddangos bod ni’n sefyll gyda menywod sy’n cael eu cam-drin. A’r syniad o’i gynnal mewn parc lle dydyn ni byth yn mynd yn y tywyllwch ar ein pennau ein hunain achos dydi hynny ddim yn sâff i ni.
“Roedden ni’m teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth.”
#AdennillyStrydoedd
Ers cyhoeddi’r digwydd, mae’r trefnwyr wedi cael ymateb “grêt”, gyda nifer o bobol yn dweud eu bod nhw am gymryd rhan.
Er hynny, mae hi’n esbonio bod “rhai wedi dweud eu bod nhw ddim yn gallu mynychu oherwydd Covid, felly, maen nhw’n mynd i sefyll yn eu drysau gyda chanhwyllau, ac efallai y bydden nhw’n defnyddio sialc ar y stryd i nodi #AdennillyStrydoedd neu #ReclaimTheStreets”.
Mae’r hashnod #AdennillyStrydoedd yn adlewyrchu symudiad Reclaim the Night, symudiad a ddechreuodd yn Leeds ym 1977 fel rhan o’r ymateb i lofruddiaethau’r Yorkshire Ripper, wedi i’r heddlu ddweud wrth fenywod gadw draw o fannau cyhoeddus yn y nos.
“Mae angen i ddynion sefyll gyda ni, mae hynny’n bwysig,” pwysleisia’r trefnydd.
“Mae’r hashnod #NotAllMen wedi bod yn trendio ar Twitter, ac rydym ni wedi cael cwpwl o bobol yn gofyn a yw hi’n iawn i ddynion fod yna, ac wrth gwrs bod e.
“Dyw hyn ddim am ferched dros fechgyn, dyw e ddim yn hynna o gwbl. Mae’n ymwneud â’r angen, a’r eisiau i bethau fod yr un peth i’r ddau ryw, a bod angen sefyll gyda’n gilydd.”
“Rhaid gweithredu nawr”
Mewn ymateb i achos Sarah Everard, a Wenjing Lin yn Nhreorci, mae’r elusen Cymorth i Ferched Cymru yn dweud bod rhaid “gweithredu nawr i greu cymunedau sy’n herio’r agweddau sy’n caniatáu i hyn barhau, gan ddangos na fyddwn ni’n goddef aflonyddu na chamdriniaeth, ac erlid y rhai sy’n gyfrifol.”
“Mae ein meddyliau gyda theuluoedd Wenjing Lin a Sarah Everard yr wythnos hon. Yn anffodus, rydym ni’n gwybod bod y rhain ddim yn ddigwyddiadau unigol, mae’n debyg bod o leiaf chwe dynes arall wedi cael eu lladd yn sgil trais gwrywaidd yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf.
“Rhaid i bob un o’r achosion hyn ein brawychu.
“Yn yr un wythnos â Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2021 ni ddylwn orfod cyfri’r menywod sydd wedi cael eu lladd.
“Dyweda’r Llywodraethau eu bod nhw wedi ymroi i atal trais yn erbyn menywod a merched, ond rydym yn parhau i glywed fod pobol ddim yn credu merched, ddim yn gwrando ar ferched, neu yn cael eu beio am yr aflonyddu, camdriniaeth, a’r trais yn eu herbyn,” meddai’r elusen.
“Mae rhwystrau mewn lle sy’n parhau i atal merched rhag cael eu hamddiffyn, a rhag cael cymorth a chyfiawnder. Caiff y rhwystrau eu dwysáu i fenywod du, lleiafrifoedd, a ffoaduriaid.
“Mae’r wythnos hon wedi amlygu’r casineb tuag at ferched, a’r hiliaeth, sy’n bodoli ar draws ein cymunedau.
“Mae gan fenywod a merched yr hawl i fod yn sâff yn gyhoeddus, yn eu cartrefi, yn y gwaith ac mewn addysg.”