Mae Scotland Yard yn wynebu ymchwiliad gan y corff sy’n arolygu’r heddlu i’r modd roedd wedi ymateb i honiad o ddinoethi anweddus yn ymwneud a’r plismon sydd wedi’i arestio mewn cysylltiad ag achos Sarah Everard.

Fe fydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i weld a oedd swyddogion wedi “ymateb yn briodol” ar ôl derbyn adroddiad bod dyn wedi dinoethi ei hun yn anweddus mewn bwyty yn ne Llundain ar Chwefror 28 – dridiau cyn i Sarah Everard, 33, ddiflannu.

Mae plismon yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o gipio a llofruddio Sarah Everard, a honiad ar wahân o ddinoethi anweddus. Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i’w holi.

Mae’r IOPC hefyd yn asesu ymateb yr heddlu ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiadau bod Sarah Everard ar goll, yn ogystal â digwyddiad lle cafodd y plismon ei gludo i’r ysbyty.

Cafodd y plismon, sy’n gweithio yn yr Adran Amddiffyn Seneddol a Diplomyddol, ei drin am anaf i’w ben a gafodd tra roedd yn cael ei gadw yn y ddalfa ddydd Iau. Mae bellach wedi gadael yr ysbyty ac wedi dychwelyd i orsaf yr heddlu lle mae’n cael ei holi.

Dywedodd Heddlu’r Met ei fod wedi cael ei anafu tra roedd ar ei ben ei hun yn ei gell a’i fod wedi derbyn cymorth cyntaf yn syth.

Fe ddiflannodd Sarah Everard wrth iddi gerdded adref o fflat ei ffrind yn ne Llundain ddydd Mercher, Mawrth 3.

Credir ei bod wedi cerdded drwy Clapham Common tuag at ei chartref yn Brixton – siwrne a fyddai wedi cymryd tua 50 munud ar droed.

Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamera yn cerdded ar hyd yr A205 tuag at Tulse Hill tua 9.30yh ar Fawrth 3.

Nos Fercher (Mawrth 10) cafodd gweddillion dynol eu darganfod mewn coedwig yn Ashford yng Nghaint ond nid ydyn nhw wedi cael eu hadnabod hyd yn hyn.

Mae dynes yn ei 30au, gafodd ei harestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn dychwelyd i orsaf yr heddlu ym mis Ebrill, meddai’r heddlu.

Mae diflaniad Sarah Everard wedi ennyn sioc a phryder ymhlith menywod sydd wedi rhannu profiadau ac yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel.

Roedd disgwyl i ddigwyddiad gael ei gynnal yn Clapham Common yn ne Llundain ddydd Sadwrn ond dywed y trefnwyr eu bod nhw bellach yn ceisio cael cymorth cyfreithiol gan honni bod Heddlu’r Met wedi gwneud tro pedol ar ganiatáu i’r digwyddiad gael ei gynnal.