Ar ôl gwylio Alun Wyn Jones a’i dîm yn ennill y Gamp Lawn yn Stadiwm Principality ddwy flynedd yn ôl mae Louis Rees-Zammit gam yn agosach at gael ei ddwylo ar y gwpan ei hunan.

Bydd yr asgellwr ifanc yn gwneud ei wythfed ymddangosiad yng nghrys coch Cymru yn Rhufain brynhawn dydd Sadwrn.

“Dwi’n cofio bod yn y stadiwm yn gwylio’r Gamp Lawn [yn 2019] gyda fy rhieni a fy mrawd,” meddai Louis Rees-Zammit.

“O’n i yn y stands pan guron ni Lloegr ac Iwerddon ddwy flynedd yn ôl, bryd hynny byswn i byth wedi dychmygu bod yn y sefyllfa dw i ynddo ar hyn o bryd.

“Dw i ond yn byw ryw ddeg munud o’r stadiwm ac wedi bod yn ffodus o gael mynd i nifer o’r gemau wrth dyfu fyny.

“Mae bob dim wedi digwydd yn gyflym iawn a dw i’n mwynhau bob eiliad ar hyn o bryd.”

Er nad yw’r Eidal wedi ennill gêm yn y bencampwriaeth ers 2015, a heb guro Cymru ers 2007, mae Louis Rees-Zammit yn mynnu nad yw Cymru wedi dechrau meddwl am y Gamp Lawn eto.

Byddai rhaid i Gymru guro’r Eidal a Ffrainc er mwyn codi’r tlws.

“Dydyn ni ddim yn meddwl am y Gamp Lawn eto, mae gem fawr gyda ni’r penwythnos yma gynta’,” meddai asgellwr Caerloyw.

“Dw i’n canolbwyntio ar fy ngêm fy hunan ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at ddod a bob dim at ei gilydd ac at y gêm dydd Sadwrn.

“Mae wedi bod yn wythnos reit ymlaciol, does dim cymaint â hynny o bwysau, rydym yn cadw ein hunain i’n hunain ac yn meddwl am y gêm.”

Louis Rees-Zammit yn dathlu ar ôl sgorio pedwerydd cais Cymru’r pnawn uma

Yr Cymro Cymraeg Eidalaidd

Mae Stephen Varney, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli, wedi ei ddewis fel mewnwr i’r Eidal ddydd Sadwrn ar ôl gwella o anaf i’w fys.

Yn fab i Adrian Varney, cyn-flaenasgellwr Castell-nedd, mae’n gymwys i chwarae yng nghrys glas yr Azzuri diolch i’w daid ar ochr ei fam, Valeria, a oedd yn garcharor rhyfel ddaeth i ardal Crymych adeg yr Ail Ryfel Byd.

Mae Louis Rees-Zammit yn edrych ymlaen at wynebu’r Cymro Eidalaidd sydd hefyd yn gyd-chwaraewr yng Nghaerloyw.

“Mae sicr o fantais i mi i wybod sut mae’n chwarae, mae’n rhan fawr o gêm yr Eidal,” meddai.

“Dwi’n hoff iawn o honno, mae’n fachgen da, ac yn gwneud yn dda i’w glwb a’i wlad.

“Maen tipyn haws ar fy rhan i o wybod sut mae’n chwarae, a dw i’n edrych ymlaen i chware yn ei erbyn eto.”

Dau newid yn nhîm Cymru i wynebu’r Eidal

Wayne Pivac yn enwi’i dîm i wynebu’r Eidal ddau ddiwrnod yn gynnar

Trip i Rufain – cam at Gamp Lawn?

Alun Rhys Chivers

Mae un o sylwebwyr rygbi S4C yn credu y gall Cymru ddechrau meddwl am Gamp Lawn, ond bod rhaid cymryd y gêm yn erbyn yr Eidal bnawn Sadwrn o ddifrif