Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi enwi ei dîm i wynebu’r Eidal – ddau ddiwrnod yn gynnar.

Cory Hill a Gareth Davies yw’r unig newidiadau i’r tîm gurodd Lloegr bythefnos yn ôl.

Mae’r mewnwr Gareth Davies yn cymryd lle Kieran Hardy, sydd wedi’i ryddhau o’r garfan oherwydd anaf i’w goes.

Ar ôl cael ei anafu yn ystod gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerddon, roedd disgwyl i Tomos Williams ddychwelyd y penwythnos hwn ond Lloyd Williams sydd wedi ei enwi ar y fainc.

Mae Cory Hill wedi ei enwi yn lle Adam Beard yn yr ail reng, a gallai Jake Ball ennill ei 50fed cap oddi ar y fainc.

Ar ôl i Rhodri Jones gael ei ryddhau o’r garfan gydag anaf i’w goes, mae Rhys Carré wedi ei enwi ar y fainc am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y penwythnos hwn,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

‘”Mae tri o dri yn ddechrau gwych ond mae digon o waith i’w wneud o hyd.

“Rydym wedi cael pythefnos i baratoi ar gyfer y gêm hon, rydym wedi hyfforddi’n dda iawn yn yr wythnos hon a gallem edrych ymlaen at rownd 4.”

Tîm Cymru

Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Louis Rees-Zammit, 13. George North, 12. Jonathan Davies, 11. Josh Adams, 10. Dan Biggar, 9. Gareth Davies

Blaenwyr:

1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Cory Hill, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Josh Navidi, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhys Carré, 18. Leon Brown, 19. Jake Ball, 20. Aaron Wainwright, 21. Lloyd Williams, 22. Callum Sheedy, 23. Uilisi Halaholo