Bydd Shane Lewis-Hughes, blaenasgellwr Cymru a’r Gleision, allan am weddill y tymor ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.

Mae hynny’n golygu na fydd e ar gael ar gyfer taith Cymru i’r Ariannin pe bai’n cael ei chynnal.

Mae gan y Gleision ddwy gêm yn weddill yn y PRO14 ac yna byddan nhw’n cystadlu yng Nghwpan Enfys, sy’n cynnwys timau o’r PRO14 ac o Dde Affrica.

Maen nhw hefyd yn dal yng Nghwpan Her Ewrop, a byddan nhw’n herio Gwyddelod Llundain yn rownd yr 16 olaf fis nesaf.

Ymddangosodd Shane Lewis-Hughes yng nghrys Cymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fis Hydref y llynedd, ac fe chwaraeodd e yn y gemau yn erbyn Iwerddon a Lloegr yn y gystadleuaeth honno.