Bydd tair rhanbarth Cymru yng Nghwpan Her Ewrop yn herio timau o Loegr yn rownd yr 16 olaf.

Bydd y Dreigiau’n croesawu Northampton a’r Gweilch yn croesawu Newcastle, tra bydd y Gleision yn teithio i herio Gwyddelod Llundain.

Mae strwythur y gystadleuaeth wedi cael ei newid o ganlyniad i ohirio gemau yn yr hydref yn sgil Covid-19.

Mae’r wyth tîm gorau ar ôl dwy gêm yng Nghwpan Her Ewrop wedi cael eu tynnu o’r het ochr yn ochr ag wyth tîm gwannaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd y gemau’n cael eu cynnal rhwng Ebrill 2-4.

Y Dreigiau v Northampton

Y Gweilch v Newcastle

Gwyddelod Llundain v Y Gleision

Harlequins v Ulster

Benetton v Agen

Zebre v Caerfaddon

Caerlŷr v Connacht

Montpellier v Glasgow

Rownd yr wyth olaf – Ebrill 9-11

Montpellier neu Glasgow v Benetton neu Agen

Y Dreigiau neu Northampton v Harlequins neu Ulster

Zebre neu Gaerfaddon v Gwyddelod Llundain neu’r Gleision

Caerlŷr neu Connacht v Y Gweilch neu Newcastle