Mae’r Cymro Ethan Ampadu a Marc Guehi, sydd ar fenthyg yn Abertawe, yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd polisi trosglwyddiadau rheolwr newydd Chelsea, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod Thomas Tuchel, a gafodd ei benodi’n ddiweddar i olynu Frank Lampard, yn awyddus i ddenu tri amddiffynnwr canol newydd i’r clwb – Niklas Sule o Bayern Munich, Jose Gimenez o Atletico Madrid ac Ibrahima Konate o RB Leipzig.

Ac mae’n debygol y bydd hynny’n arwain at ymadawiad o leiaf un o amddiffynwyr y tîm cyntaf, gyda Kurt Zouma ymhlith y ffefrynnau i fynd.

Mae Marc Guehi ar fenthyg yn Abertawe ers mis Ionawr y llynedd ac mae e wedi dod yn aelod pwysig o amddiffyn yr Elyrch ers iddyn nhw symud i dri yn y cefn.

Mae Ethan Ampadu ar fenthyg yn Sheffield United ers mis Medi, gyda Ryan Giggs, rheolwr Cymru, ymhlith y rhai oedd yn awyddus i’w weld e’n chwarae’n rheolaidd.

Er bod disgwyl i’r ddau ddychwelyd i Chelsea yn y pen draw i frwydro am eu lle yn y tîm, mae’r polisi’n golygu y byddan nhw fwy na thebyg yn cwympo i lawr y rhestr flaenoriaeth yn y clwb.

Gyda Sheffield United ymhlith y ffefrynnau i gwympo o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor, fe allai hynny olygu y bydd Ampadu yn chwilio am glwb newydd er mwyn cael parhau i chwarae ar y lefel uchaf.

Ond gydag arian yn brin yn Abertawe, fe fyddan nhw’n awyddus i ddal eu gafael ar y chwaraewr – boed hynny yn y Bencampwriaeth neu hyd yn oed yn yr Uwch Gynghrair pe baen nhw’n ennill dyrchafiad.