Mae’r cyn-athletwr Darren Campbell wedi’i benodi’n bennaeth rasys gwib a rasys cyfnewid byr Athletau Prydain.
Enillodd e’r fedal arian yn y 200m yng Ngemau Olympaidd 2000 ac aur Olympaidd yn y ras gyfnewid 4x100m yn 2004.
Bydd e’n cydweithio â’r cyn-athletwr Tim Benjamin, pennaeth rasys gwib a rasys cyfnewid hir y corff.
Mae’r Cymro Christian Malcolm wedi croesawu’r ddau benodiad “gwych i’r gamp”.
Ymateb Darren Campbell
Ers ymddeol yn 2006, mae Darren Campbell wedi datblygu gyrfa fel sylwebydd.
Yn fwyaf diweddar, mae e wedi llunio hunangofiant gyda’r Cymro Cymraeg Trystan Bevan, yn trafod ei gyfnod yn ymarfer ac yn chwarae pêl-droed yng Nghymru, yn ogystal â’i fagwraeth ym Manceinion.
“Dw i’n falch iawn o dderbyn y rôl yma ac o gael gweithio gyda Tim, Christian a Sara [Syminton, cyfarwyddwr perfformio],” meddai.
“Dw i’n teimlo mai dyma’r adeg iawn i fi fod ynghlwm wrth y gamp eto.
“Dw i wedi cyffroi yn sgil yr arweinyddiaeth newydd a’r cyfeiriad newydd mae’n symud iddo drwy roi athletwyr yn gyntaf.
“Pan o’n i’n cystadlu, dw i ddim yn teimlo ein bod ni bob amser wedi cael yr hyn roedd ei angen arnom, a doedd dim cefnogaeth iawn.
“Dw i’n gwybod y galla i ddod â’r profiad a’r cymorth hwnnw er mwyn sicrhau bod gan athletwyr yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus.”
Mae Chris Jones o Athletau Cymru wedi’i benodi’n bennaeth gwytnwch dros dro.