Mae’r cyfreithiwr sy’n cynrychioli nifer o chwaraewyr rygbi, gan gynnwys y Cymro Alix Popham, yn galw am weithredu ar unwaith yn hytrach nag aros am ganlyniadau ymchwiliad i gyfergyd.

Mae Popham ymhlith naw o chwaraewyr sy’n dwyn achos, ac yntau wedi cael diagnosis o ddementia cynnar.Mae lle i gredu bod cyn-chwaraewyr pêl-droed a rygbi’r gynghrair hefyd yn dwyn achos.

Mae Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yn cynnal sesiwn fore heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 9) i glywed tystiolaeth.

Ar drothwy’r sesiwn, mae Richard Boardman, y cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r cyn-chwaraewyr, yn annog yr awdurdodau i weithredu ar unwaith er mwyn gwarchod chwaraewyr presennol.

“Ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod”

“Aeth bron i 19 mlynedd heibio bellach ers i Dr Omalu roi’r diagnosis cyntaf o CTE (enceffalopathi trawmatig cronig) i’r chwaraewr pêl-droed Americanaidd Mike Webster,” meddai.

Yn yr un flwyddyn, bu farw’r pêl-droediwr proffesiynol o Loegr Jeff Astle, ac fe gafodd e ddiagnosis wedyn o CTE.

“Dydy’r rhain ddim yn ddigwyddiadau unigol.

“Mae amryw o gyrff chwaraeon wedi bod yn trafod mater anafiadau i’r pen mewn chwaraeon ers bron i 40 mlynedd.

“Ond eto, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod.

“Tra fy mod i’n bles o weld aelodau seneddol yn lansio’r ymchwiliad hwn, fe fu aros hir amdano.

“Ddylai’r awdurdodau chwaraeon ddim chwaith weld yr ymchwiliad fel cyfle i oedi cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i’w campau nawr.

“O ystyried graddau’r broblem, sydd i’w weld yn nifer y chwaraewyr sy’n cyflwyno tystiolaeth – nid dim ond yn rygbi’r undeb ond hefyd yn rygbi’r gynghrair a phêl-droed – nid dyma’r amser i gyrff llywodraethu barhau â’u dull estrysaidd.

“Yn hytrach, mae angen iddyn nhw gydnabod fod y broblem yn bod a dechrau cymryd rhan mewn trafodaethau i esgor ar newid positif.”

 

Llawfeddyg yn ofni y bydd chwaraewyr rygbi presennol yn dioddef anaf hirdymor i’r ymennydd

Mae’r Athro John Fairclough yn rhan o’r grŵp ‘Progressive Rugby’ sy’n lobïo cyrff llywodraethu’r gêm i gyflwyno mesurau i wneud y gêm yn fwy diogel