Mae llawfeddyg oedd yn arfer gweithio i Undeb Rygbi Cymru yn ofni y bydd chwaraewyr rygbi presennol yn dioddef anaf hirdymor i’r ymennydd, wrth i nifer yr achosion o gyfergydion gynyddu.
Mae Popham yn dweud fod y gamp wedi ei adael gyda niwed parhaol ar ôl cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia.
Mae’r Athro John Fairclough yn rhan o’r grŵp ‘Progressive Rugby’ sy’n lobïo cyrff llywodraethu’r gêm i gyflwyno mesurau i wneud y gêm yn fwy diogel, gan gynnwys dychwelyd i isafswm o dair wythnos o saib os yw chwaraewr yn dioddef cyfergydion.
Mae Popham hefyd yn rhan o’r grŵp.
“Nifer y cyfergydion yn cynyddu”
Mae’r Athro Fairclough yn ofni y bydd y cyflyrau fel sydd gan Popham yn awr yn debygol o gael eu hailadrodd yn y rhai sy’n dal i chwarae ac a fydd yn ymddeol dros y pum mlynedd nesaf.
Gan ddyfynnu astudiaeth o gêm broffesiynol Cymru a gynhaliwyd gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd rhwng 2012 a 2016, dywedodd yr Athro Fairclough: “Dros gyfnod o bedair blynedd roedd nifer y cyfergydion yn cynyddu.
“Y tebygolrwydd yw ein bod yn mynd i weld mwy [o chwaraewyr â niwed hirdymor i’r ymennydd].
“Yn y 30 mlynedd rwyf wedi bod yn eistedd ochr y cae, bu nifer cynyddol o bobol ag anafiadau i’r pen felly os ydym yn datgelu mwy, ydyn, rydyn ni’n mynd i weld yr effaith.”
Bydd yr Athro Fairclough yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad seneddol sy’n edrych ar y cysylltiad rhwng chwaraeon ac anafiadau hirdymor i’r ymennydd yr wythnos nesaf.
Mae’n teimlo bod lleihau risg diangen yn allweddol i leihau’r tebygolrwydd y bydd chwaraewyr yn dioddef anhwylderau yn ddiweddarach mewn bywyd.
“Dydyn ni ddim eisiau lladd y chwaraeon gyda chyfraith. Ond os oes achos cyfreithiol sy’n gywir, wrth gwrs mae’n rhaid i hynny fynd yn ei flaen,” meddai.
“Ond gadewch i ni geisio dileu’r ffactorau risg hynny y gallwn eu dileu.”