Mae chwe Chymro ymhlith y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol sy’n dwyn achos yn erbyn awdurdodau’r gêm.
Daw hyn wedi i gyn-wythwr Cymru Alix Popham honni fod y gamp wedi ei adael gyda niwed parhaol ar ôl cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia.
Wedi i’w gyfreithiwr rybuddio y gallai hyd at 50% o gyn-chwaraewyr rygbi proffesiynol gael cymhlethdodau niwrolegol, mae WalesOnline bellach yn adrodd bod pum chwaraewr arall o Gymru, yn ogystal ag Alix Popham, yn dwyn achos cyfreithiol, tra bod o leiaf 30 o Gymry ymhlith y 110 o gyn-chwaraewyr sy’n dangos symptomau.
Mae’r chwaraewyr, sydd oll o dan 45 mlwydd oed, yn honni i Undeb Rygbi Cymru, Rygbi Lloegr a Rygbi’r Byd fethu eu hamddiffyn rhag y risgiau a achosir gan gyfergydau.
Y ddau chwaraewr arall sydd wedi siarad yn gyhoeddus am eu profiadau yw cyn-fachwr Lloegr Steve Thompson a chyn-flaenasgellwr Lloegr Michael Lipman.
Dywedodd Steve Thompson wrth y Guardian nad oedd yn cofio ennill Cwpan Rygbi’r Byd yn 2003.
50% o gyn-chwaraewyr yn debygol o ddioddef
Eglurodd eu cyfreithiwr, Richard Boardman o gwmni cyfreithiol Rylands, waeth beth fo canlyniad y camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdodau y bydd rhaid i bethau newid o fewn y gêm er mwyn sicrhau na fydd rhagor o chwaraewyr yn dioddef.
“Credwn y gallai hyd at 50% o gyn chwaraewyr rygbi proffesiynol gael cymhlethdodau niwrolegol ar ôl ymddeol,” meddai Richard Boardman.
“Mae hynny’n epidemig, a ph’un a ydych chi’n credu bod y cyrff llywodraethu a Rygbi’r Byd yn atebol ai peidio, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i wella’r gêm.
“Mae angen gwneud newidiadau ar unwaith i’r gêm i ddiogelu’r genhedlaeth bresennol, a chwaraewyr y dyfodol.
“Mae’r gwrthdrawiadau, cyflymder y gêm, y llwyth gwaith yr un mor fawr nawr a does dim byd i awgrymu na fydd yr hyn sydd wedi digwydd i Steve, Alix a Michael yn digwydd i genedlaethau eraill.”
Yng nghyd â’r tri sydd wedi’u henwi mae’r cyfreithiwr yn cyd weithio gyda 110 o gyn-chwaraewyr eraill rhwng 25 a 55 oed sydd hefyd yn dangos symptomau tebyg.
Yn ystod y dyddiau nesaf bydd yn anfon llythyr at Undeb Rygbi Cymru, Rygbi Lloegr a Rygbi’r Byd.
“Cyn gweithredu rydyn ni am anfon llythyr i’r ochr arall [y cyrff llywodraethu] yn ddiweddarach yr wythnos hon neu ddechrau’r wythnos nesaf ac yna’n gwbl briodol byddant yn cael cyfle i fynd i ffwrdd am nifer o fisoedd er mwyn ateb,” ychwanegodd y cyfreithiwr.
Mae’r chwaraewyr dan sylw wedi cyhoeddi 15 awgrym er mwyn gwella diogelwch chwaraewyr:
- Rygbi’r Byd i dderbyn y gall chwarae rygbi proffesiynol arwain at glefydau niwroddirywiol.
- Cyflwyno hyfforddiant a reoleiddir gan gyfyngu cyswllt i nifer penodol o sesiynau’r flwyddyn
- Cyfyngu ar nifer y chwaraewyr sy’n cael dod ymlaen o’r fainc fesul gêm
- Undebau chwaraewyr i gael mwy o annibyniaeth
- Diddymu contractau dim oriau
- Profion cyn bob tymor
- Datblygu profion gwell ar yr ystlys
- Arbenigwyr cyfergyd i gael yr hawl i dynnu chwaraewyr sy’n dangos symptomau gweladwy oddi ar y cae
- Creu cronfa ddata ganolog gydol gyrfa yn amseru hanes anafiadau
- Dileu dibyniaeth rygbi’r undeb ar wahanol sefydliadau ceidwadol, megis y Grŵp Consensws Rhyngwladol ar Gyfergydau mewn Chwaraeon a’r Sefydliad Ymchwil Cyfergydau a Anafiadau Pen Rhyngwladol, a dewis adrannau gwyddoniaeth chwaraeon
- Gwneud ymchwil frys i effaith y rheng flaen ar yr ymenydd
- Mwy o addysg ar gyfergydau
- Ar gyfer pob tri cyfergyd a ddioddefir gan chwaraewr, bydd yn derbyn set lawn o brofion meddygol
- Dileu dibyniaeth ar y sgan MRI i brofi trawma’r ymennydd
- Gwell ôl-ofal