Mae Alix Popham, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, ymhlith wyth chwaraewr sy’n dwyn achos yn erbyn awdurdodau’r gêm.

Mae pob un o’r wyth wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia, ac yn honni fod y gamp wedi eu gadael gyda niwed parhaol.

Mae disgwyl iddynt ddechrau achos yn erbyn World Rugby, Undeb Rygbi Cymru a’r RFU er mwyn hawlio iawndal – y camau cyfreithiol cyntaf yn y byd rygbi.

Yn ôl eu cyfreithiwr, Richard Boardman o gwmni cyfreithiol Rylands, mae’n ymwybodol o 80 o gyn-chwaraewyr rhwng 25 a 55 oed sydd yn dangos symptomau tebyg.

‘Llawer mwy na 80’

Bu rhaid i Alix Popham, a enillodd 33 cap fel wythwr i Gymru, ymddeol yn gynnar ô’r gêm oherwydd anaf i’w ysgwydd yn 2011.

Bellach mae’r tad 41 oed wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia gallai fod wedi deillio o ergydion parhaus i’r pen wrth chwarae rygbi.

“Ar hyn o bryd rydym yn cynrychioli dros 80 o gyn-chwaraewyr, ond rydym yn disgwyl i lawer mwy gysylltu gyda ni,” meddai cyfreithiwr y chwaraewyr wrth yBBC.

Disgrifiodd Popham effeithiau cyfergydion ar ei ymennydd fel tap sy’n gollwng.

“Os yw’n diferu unwaith neu ddwy dydy’r effaith ddim mor ddrwg â hynny, ond pe bai’n diferu am 14 mlynedd, byddai’n gadael gwagle mawr,” meddai.

“A dyna’r difrod sydd i’w weld ar y sganiau.”

Mae’r cyn-wythwr wedi cael gwybod efallai bydd rhaid iddo fod mewn cartref gofal cyn iddo fod yn 50 oed.

Yn ogystal â Popham mae Steve Thompson, a enillodd Cwpan Rygbi’r Byd gyda Lloegr yn 2003, hefyd yn un o’r wyth – dydy’r cyn-fachwr methu cofio ennill Cwpan y Byd.

Y gyfraith yn ymwneud a chyfergyd

Yn ardal y dacl y mae’r rhan fwya’ o achosion o gyfergyd yn digwydd a’r taclwr ei hun sydd mewn mwya’ o beryg.

Mae cyfreithiau rygbi bellach yn nodi os bydd chwaraewr, ar unrhyw adeg yn ystod gêm, yn cael cyfergyd neu os yw wedi amau cyfergyd, rhaid tynnu’r chwaraewr hwnnw oddi ar y cae ar unwaith.

Ers 2012 mewn gemau sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw gan Rygbi’r Byd ceir  defnyddio’r broses o wneud asesiad anaf i’r pen (HIA). Gall chwaraewr adael y cae i gael ei asesu am ddeg munud gan ddod a chwaraewr arall ymlaen dros dro neu yn barhaol.

Ond mae’r wyth chwaraewr sydd i gyd dan 45 mlwydd oed yn honni i Rygbi Lloegr ac Undeb Rygbi Cymru fethu eu hamddiffyn rhag y risgiau a achosir gan gyfergydau.