Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddim yn cymryd rhan mewn dadl rhwng arweinwyr gwleidyddol Cymru wythnos nesaf.

Mae adroddiadau mai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg fydd yn cynrychioli Llafur Cymru yn y ddadl.

Yn ôl Nation.Cymru cysylltodd y BBC gyda Llafur Cymru wythnos ddiwethaf yn dilyn honiadau fod Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod am y ddadl ers mis Tachwedd.

Bydd y ddadl yn cael ei darlledu gan BBC Cymru ar Ragfyr 16.

‘Canolbwyntio ar arwain Cymru drwy’r pandemig’

Eglurodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod y Prif Weinidog eisoes yn ateb cwestiynau wythnosol yn y Senedd gan y gwrthbleidiau ac yn wynebu cwestiynau gan y wasg mewn cynadleddau.

“Mae Mark yn canolbwyntio ar arwain Cymru drwy’r pandemig yn yr wythnosau anodd nesaf,” meddai’r llefarydd wrth Nation.Cymru.

“Bydd digon o amser ar gyfer dadleuon teledu yn y flwyddyn newydd, cyn yr etholiadau. Tan hynny, gall pobol wylio Mark yn ymateb i gwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau bob dydd Mawrth yng nghwestiynau’r Prif Weinidog.

“Mae Eluned Morgan yn weinidog profiadol yn Llywodraeth Cymru a bydd yn gwneud gwaith rhagorol.”

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn falch o gael cymryd rhan yn y ddadl a chael cyfle i graffu.

Er bod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi cael cais i gymryd rhan, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y gallai hyn newid.