Cododd y gyfradd hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr yn sylweddol rhwng 2016 a 2018 , gan gyrraedd ei lefel uchaf ers dros ddegawd, yn ôl ffigyrau newydd.

Roedd 10.6 o hunanladdiadau fesul 100,000 o bobol yn 2018 – y gyfradd uchaf mewn 14 mlynedd, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yn 2016 roedd 9.7 hunanladdiad fesul 100,000 o bobol.

Yng Nghymru, nid yw’r gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda 19.5 o farwolaethau ymhob 100,000 o ddynion yn 2018.

Cynyddodd y gyfradd hunanladdiad ar gyfer menywod yng Nghymru rhwng 2016-18 o 4.0 i 6.9 marwolaeth ymhob 100,000 – cynnydd o 72.5%.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod newidiadau mewn cyfraddau yng Nghymru yn fwy eithafol oherwydd bod llai o hunanladdiadau.

Mae’r dadansoddiad yn edrych ar farwolaethau ar y dyddiad y digwyddodd yn hytrach na phan oeddent wedi’u cofrestru, i ddeall yr union amseriad a rhai o’r ffactorau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau diweddar.

Pobl ifanc

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd wedi bod yn fwyaf amlwg ymhlith pobol ifanc 10-24 oed a dynion 45-64 oed.

Adlewyrchir y newid mewn cyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl ifanc gan gyfraddau cynyddol o dderbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i hunan-niweidio yn y grŵp oedran hwn.

Cynyddodd y gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion yn sylweddol mewn dinasoedd a threfi, tra bod cyfraddau hunanladdiad yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos:

  • Cynyddodd y gyfradd ymhlith bechgyn a dynion ifanc 27.9% o 6.1 marwolaeth ymhob 100,000 o ddynion yn 2009 i 7.8 o farwolaethau ymhob 100,000 yn 2018.
  • Y gyfradd ar gyfer merched a menywod ifanc oedd 1.7 marwolaeth ymhob 100,000 o fenywod yn 2011, gan godi i 2.9 marwolaeth ymhob 100,000 o fenywod yn 2018.
  • Ar gyfer dynion rhwng 45 a 64 oed, cododd cyfradd hunanladdiad o 16.7 o farwolaethau ymhob 100,000 yn 2006 i 21.2 o farwolaethau ymhob 100,000 yn 2018.