Mae ’na “bosibilrwydd” y bydd yn rhaid edrych eto ar y rheolau dros y Nadolig, meddai Gweinidog Iechyd Cymru, a hynny oherwydd nad oedd “newid sylweddol” wedi bod yn ymddygiad pobl ers diwedd y cyfnod clo byr.
Ond wrth gael ei holi ar raglen Today ar Radio 4, dywedodd Vaughan Gething nad oedd yn ffyddiog y byddai newid y trefniadau dros gyfnod y Nadolig yn arwain at newid yn y ffordd mae pobl yn ymddwyn.
“Yn anffodus ers i’r cyfnod clo byr ddod i ben, er gwaetha’r ffaith ein bod wedi annog pobl i wneud y peth iawn dy’n ni ddim wedi gweld newid sylweddol yn ymddygiad pobl.
“Dw i ddim yn credu y gallwn ni amharu ar y setliad dros y Nadolig a dyma un o’r pethau anodd, wrth gwrs ry’n ni eisiau i bobl feddwl beth ddylen nhw fod yn gwneud nid beth allen nhw wneud.
“Os nad oes gynnon ni wahanol set o drefniadau dros y Nadolig fydd pobl yn gwneud eu rheolau eu hunain,” meddai.
O dan y trefniadau presennol, bydd pobol o dair aelwyd yn cael cymysgu am bum niwrnod dros gyfnod y Nadolig.
Trefniadau Nadolig
Pan ofynnwyd am y posibilrwydd y bydd rhaid gwneud newidiadau i’r drefn dros gyfnod y Nadolig dywedodd Vaughan Gething: “Mae’n bosib ond mae’r cyngor ry’n ni wedi’i gyhoeddi gan ein prif swyddog meddygol yn mynd drwy gyfres o heriau sydd gennym, a dyna pam mae ’na set o drefniadau arbennig dros gyfnod y Nadolig.
“Ac mae’n rhaid i chi ystyried petai ni’n dweud nawr ein bod am newid y trefniadau hynny beth fyddai’r ymateb ac a fydden ni’n gweld unrhyw ymddygiad gwahanol o gwbl. Dw i ddim wedi fy argyhoeddi y byddai newid y trefniadau Nadolig yn arwain at fwy o bobl yn gwneud rhywbeth gwahanol.”
Ychwanegodd mai’r pwyslais oedd ceisio dwyn perswâd ar y cyhoedd i wneud dewisiadau gwahanol “er mwyn eu teuluoedd a’u hanwyliaid.”
“Bydd cyfnod o lacio dros y Nadolig yn arwain at gynnydd eto”
Yn ystod Cyfarfod Llawn o’r Senedd brynhawn dydd Mawrth (Rhagfyr 8) dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, nad oedd yn meddwl y byddai angen cyflwyno mesurau ychwanegol cyn y Nadolig.
“Gall neb wadu wythnos yma nad oedd y mesurau rydym ni wedi ei gymryd [yn y sector lletygarwch] y rhai cywir i’w cymryd,” meddai.
“Mae angen i ni roi amser i’r mesurau hyn gael cyfle i wneud gwahaniaeth, ynghyd a newid ymddygiad pobol i ostwng y cyfraddau eto.
“Dydw i ddim yn meddwl fod hynny’n golygu y byddwn ni’n cyflwyno mesurau pellach ochr yma’r Nadolig – ond ochr arall y Nadolig mae’r awgrymiadau yn yr adroddiad TAC [Cell Cyngor Technegol] yn dangos bydd cyfnod o lacio dros y Nadolig yn arwain at gynnydd eto.
“Golygai hyn fod rhaid i unrhyw lywodraeth gyfrifol feddwl am y mesurau bydd angen eu cyflwyno er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd a lleihau’r marwolaethau.”
Brechlyn
Daw eu sylwadau wrth i’r brechlyn Covid ddechrau cael ei roi i bobl ar draws y Deyrnas Unedig heddiw. Bydd 6,000 o ddosau o’r brechlyn wedi cael eu rhoi i bobol yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos.
Ond dywedodd Mark Drakeford, er bod y brechlyn yn “llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll… dydy’r ffaith bod brechlyn ar gael ddim yn golygu bod modd i ni roi’r gorau i’r holl arferion sy’n ein diogelu.”
Ddydd Llun (Rhagfyr 7), roedd Vaughan Gething, wedi disgrifio’r sefyllfa yng Nghymru fel un “difrifol iawn”.
Dywedodd bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru “dan bwysau sylweddol a pharhaus” oherwydd y coronafeirws.