Roedd un o bob pedwar marwolaeth yng Nghymru a Lloegr ddiwedd mis Tachwedd yn gysylltiedig a Covid-19, yn ol ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Cofrestrwyd 3,040 o farwolaethau ‘coronafeirws newydd’ yn yr wythnos a ddaeth i ben ar Dachwedd 27 – 24.4% o gyfanswm y marwolaethau a gofrestrwyd yn ystod yr wythnos honno.
Cyfanswm nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos a ddaeth i ben ar Dachwedd 27 oedd 12,456 – 20% yn uwch na nifer cyfartalog y marwolaethau am y cyfnod hwn dros y pum mlynedd diwethaf.
Roedd nifer y marwolaethau hefyd yn uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd mewn ysbytai, cartrefi gofal, cartrefi preifat a lleoliadau eraill.
Cymru oedd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig lle doedd cyfraddau Covid ddim wedi gostwng ddiwedd mis Tachwedd, ac roedd cyfradd marwolaethau Covid yng Nghymru yn uwch na Lloegr yn yr wythnos hyd at Ragfyr 1.
Mae 75,092 o farwolaethau Covid wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig hyd yma, gyda 2,717 o rheini yng Nghymru.
Achosion yn parhau i gynyddu
Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun (Rhagfyr 7) dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod y sefyllfa yng Nghymru yn un “ddifrifol iawn”.
Mae achosion o’r feirws yn parhau i godi mewn 19 allan o 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn “ystyried” a fydd angen cymryd camau pellach yn y flwyddyn newydd i fynd i’r afael a’r ymlediad.