Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi disgrifio’r sefyllfa yng Nghymru fel un “difrifol iawn”.
Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, (Rhagfyr 7), dywedodd bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru “dan bwysau sylweddol a pharhaus” oherwydd y coronafeirws.
Mae dros 1,800 o gleifion sy’n gysylltiedig â choronafeirws yn cael eu trin mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd – y nifer uchaf erioed.
Cymru hefyd oedd unig ran o’r Deyrnas Unedig lle doedd cyfraddau Covid ddim wedi gostwng ddiwedd mis Tachwedd, ac roedd cyfradd marwolaethau covid yng Nghymru yn uwch na Lloegr yn yr wythnos hyd at 1 Rhagfyr.
Ystyried camau pellach yn y flwyddyn newydd
Dywedodd Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru yn “ystyried” a fydd angen cymryd camau pellach yn y flwyddyn newydd.
“Fe wnaethon ni gyflwyno cyfyngiadau newydd ddydd Gwener i arafu lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobol,” meddai.
“Ond, yn union fel y clo diweddar, ni fyddwn yn gweld yr effaith yn syth – bydd yn cymryd ychydig wythnosau.
“Os na welwn ostyngiad mewn derbyniadau coronafeirws mewn ysbytai, bydd angen i ni ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd i warchod y Gwasanaeth Iechyd wrth i ni symud i’r Flwyddyn Newydd.”
‘Covid-19 yn lledaenu’n gyflym’
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion hefyd yn codi mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
“Mae cyfradd achosion Cymru gyfan bron 70 pwynt yn uwch nag yr oedd ddydd Gwener,” meddai’r Gweinidog Iechyd.
“Mae hyn yn dangos i chi pa mor gyflym mae coronafeirws yn lledaenu.
“Erbyn hyn mae wyth awdurdod lleol gyda chyfraddau uwch na 400 o achosion fesul 100,000 o bobol – pedair gwaith cymaint o ardaloedd a oedd ddydd Gwener.
“Yn anffodus, rydym hefyd wedi gweld cyfraddau uchel o fwy na 500 ym Mlaenau Gwent a 600 yng Nghastell-nedd Port Talbot.”
Ymateb y Ceidwadwyr
Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf, galwodd Andrew RT Davies – Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr – am gynlluniau mawl i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Rydyn ni, nid yn unig y Ceidwadwyr Cymreig ond pawb yng Nghymru rwy’n siŵr, eisiau gweld cynlluniau manwl o sut y bydd y weinyddiaeth yma yn mynd i’r afael â hyn,” meddai.
“Fodd bynnag, rydym wedi bod yn galw am gyhoeddi cynllun Gaeaf manwl ar gyfer sut y bydd y feirws yn cael ei reoli am fisoedd, ac rydym yn dal i aros.”