Mae’r brawychwr Hashem Abedi wedi cyfaddef, am y tro cyntaf, ei ran yn y cynllwyn i fomio Arena Manceinion, mae ymchwiliad cyhoeddus wedi clywed.
Cafodd 22 o bobl eu lladd yn y digwyddiad ar Fai 22, 2017.
Roedd Hashem Abedi wedi cyfaddef ei ran yn y digwyddiad pan oedd dau aelod o dîm cyfreithiol yr ymchwiliad wedi mynd i’w weld yn y carchar.
Yn gynharach eleni, roedd Hashem Abedi, brawd yr hunan-fomiwr Salman Abedi, wedi pledio’n ddieuog i 22 cyhuddiad o lofruddio, ceisio llofruddio a chynllwynio i achosi ffrwydrad a oedd yn debygol o beryglu bywyd.
Nid oedd wedi rhoi tystiolaeth yn yr Old Bailey ond yn hytrach wedi gwneud datganiad lle’r oedd yn gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad. Roedd yn honni ei fod wedi bod mewn “sioc” o glywed yr hyn wnaeth ei frawd ac nad oedd ganddo ddaliadau eithafol.
Fe’i cafwyd yn euog gan y rheithgor o bob un o’r troseddau chael 24 dedfryd o garchar am oes ym mis Awst gyda gorchymyn i dreulio 55 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.
Ar Hydref 22 cafodd Hashem Abedi ei holi yn y carchar lle’r oedd wedi cyfaddef ei fod wedi cymryd rhan “lawn” yn y digwyddiad, clywodd yr ymchwiliad.
Fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yn ymchwilio i bob agwedd o’r digwyddiad ac mae disgwyl iddo ddod i ben yn y gwanwyn 2021.