Fe fydd y swm uchaf o gyllid erioed, dros £227m, yn cael ei neilltuo er mwyn ehangu gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Mae’n gynnydd o dros £16m (8.3%) ers y llynedd, a bydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol.
Bydd £9.124m yn rhagor yn mynd tuag at ariannu hyfforddiant ar draws yr holl raglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.
A bydd £5.312m ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynnal y niferoedd sy’n hyfforddi i fod yn feddygon teulu, tra bod y Llywodraeth hefyd yn cynyddu’r gyllideb hyfforddiant ym maes fferylliaeth £0.762m.
Hefyd yn y cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 7), dywedodd Vaughan Gething y bydd £2.3m ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer darparu rhagor o leoedd hyfforddiant ac addysg ym maes meddygaeth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol yn cynyddu capasiti’r gweithlu ac yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ymateb i’r heriau mae’n ei wynebu “heddiw, ac yn y dyfodol”.
‘Ymroddiad diflino’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Eleni, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi dangos cryfder a chadernid eithriadol, rhywbeth na fyddai’n bosibl oni bai am ymroddiad diflino ei weithlu.
“Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn parhau â’u gwaith ar y rheng flaen er mwyn gofalu amdanon ni i gyd, wrth inni barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws.
“Mae eleni wedi dangos yn gliriach nag erioed pa mor hanfodol yw hi ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant ac yn cynnal ein gweithlu iechyd ledled Cymru.
“Mae mwy o bobl nag erioed yn ei hanes yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol heddiw, er mwyn darparu gofal i bob unigolyn, teulu, a chymuned yng Nghymru.
“Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i feddu ar y sgiliau priodol i allu darparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.”