Mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru heddiw (Rhagfyr 7) yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal am y tro cyntaf yn 2019, gan lwyddo i gyrraedd bron i filiwn o gyfrifon ar Twitter.

Yn ogystal â’r negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, manteisiodd nifer o sefydliadau cyhoeddus ar y cyfle i atgoffa’r staff yn fewnol am yr hawliau sydd gan y cyhoedd i’r Gymraeg.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei gydlynu gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, hefyd yn coffau’r dyddiad y cafodd Mesur y Gymraeg ei basio gan Senedd Cymru.

“Ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth

Yn ogystal â chydlynu’r diwrnod, mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi creu pecyn o adnoddau marchnata i sefydliadau, fel modd ymarferol o’u hannog i hyrwyddo hawliau’r Gymraeg.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts:

“Roeddem yn gweld o’n harolygon mai prin oedd yr enghreifftiau o sefydliadau cyhoeddus oedd yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.

“Felly, cafodd y tîm cyfathrebu syniad o gynnig cymorth ymarferol iddyn nhw, gan greu pecyn o adnoddau marchnata a dynodi diwrnod cenedlaethol i hyrwyddo’r hawliau.

“Wrth reswm, rydym yn disgwyl i’r sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn,” meddai, “ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth.

“Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo.”

83 o sefydliadau wedi ymuno llynedd

Fe ymunodd 83 o sefydliadau amrywiol yn y diwrnod llynedd, gan gynnwys cynghorau sir, heddluoedd, gwasanaethau tân ac achub, colegau a phrifysgolion, byrddau iechyd a pharciau cenedlaethol.

Yn eu plith, roedd Heddlu Gwent ac wrth drafod arwyddocâd y diwrnod, dywedodd eu Dirprwy Brif Gwnstabl, Amanda Blakeman:

“Mae gallu cyfathrebu’n glir yn arf hanfodol wrth blismona. Rydym eisiau i bobl gael y gwasanaeth o’r ansawdd uchaf gan Heddlu Gwent pan maent yn cysylltu â ni, yn yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

“Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaeth er mwyn ei gwneud hi’n haws i’r gymuned gysylltu gyda ni; boed hynny yn aelod o’r cyhoedd yn ymweld â derbynfa neu’n ffonio ystafell reoli’r llu am gymorth.

“Mae cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Gymraeg yn amlygu ymrwymiad Heddlu Gwent i’r Gymraeg.  Mae hefyd yn gyfle i ddangos i’n swyddogion a’n staff sut y gallan nhw ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith.”

Cyfle i gael hwyl a chodi ymwybyddiaeth

Sefydliad arall ymunodd yn y Diwrnod Hawliau yn 2019 oedd Grŵp Llandrillo Menai.

Dywedodd Gwennan Richards, Rheolwr Sgiliaith a Datblygu Dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai:

“Mae’r Safonau Gymraeg yn rhan annatod o weithredoedd Grŵp Llandrillo Menai o ddydd i ddydd, ond mae cael ymgyrch arbennig fel hyn yn rhoi cyfle i ni ddathlu ein hawliau ni, fel staff a dysgwyr, i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob man yn y coleg.

“Fel rhan o ymgyrch llynedd, crëwyd sawl clip fideo o staff a dysgwyr yn disgrifio sut maent yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith a’u haddysg. Hefyd, crëwyd cardiau post yn hyrwyddo hawliau dysgwyr ac yn gofyn iddynt wneud un addewid i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y coleg e.e. siarad Cymraeg gyda thiwtor neu gwblhau un darn o waith yn Gymraeg.

“Eleni, ymysg pethau eraill, bydd ein Llysgenhadon Cymraeg yn creu flogiau yn sôn am sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg o ddydd-i-ddydd.

“Mae Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn gyfle i gael tipyn o hwyl, tra’n codi ymwybyddiaeth o hawliau pwysig sydd gan ddysgwyr a staff.”