Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio gan un o bwyllgorau’r Senedd er mwyn dysgu am effeithiau cael mwy o bobol yn gweithio o gartref neu o bell.
Mae dros hanner y gweithwyr yng Nghymru wedi gweithio o adref am rywfaint o’r amser rhwng Ebrill a Mehefin eleni oherwydd y pandemig ac mae llawer yn dal i wneud hynny.
Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd yn clywed gan gyflogwyr, gweithwyr ac arbenigwyr o Gymru a’r Deyrnas Unedig a hefyd yn edrych ar enghreifftiau rhyngwladol lle mae uchelgeisiau tebyg wedi’u gosod.
‘Effaith ddramatig’
“Mae gweithio o bell wedi cael effaith ddramatig ar y ffordd y mae llawer yn gweithio yng Nghymru,” meddai Russell George AoS, cadeirydd y pwyllgor.
“Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gyda llai o bobl yn gyrru i’r gwaith, gan leihau tagfeydd ar y ffyrdd a gwella ansawdd aer.
“Fodd bynnag, mae wedi bod yn her go iawn i lawer a allai deimlo’n ynysig ac yn ei chael hi’n anodd gweithio gartref am amryw o resymau.”
Cyfeiriodd yr Aelod o’r Senedd at effeithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a chaffis a siopau coffi sy’n ddibynnol ar fasnach amser cinio.
Ar ei bwynt isaf yn ystod cyfnod y clo cyntaf, roedd y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn llai nag 20% i gymharu a mis Ionawr.
“Rydym yn awyddus i glywed gan bobl ledled Cymru y mae gweithio o bell wedi effeithio arnyn nhw ac i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth iddo ddatblygu,” ychwanegodd Russell George.
Mae’r Pwyllgor am edrych ar effeithiau gweithio o bell ar:
- Yr economi a busnes
- Canol trefi a dinasoedd
- Materion sy’n effeithio ar y gweithlu, a sgiliau
- Iechyd (corfforol a meddwl) a llesiant
- Anghydraddoldebau rhwng gwahanol grwpiau a gwahanol rannau o Gymru (gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chysylltedd gwael)
- Yr amgylchedd
- Y rhwydwaith trafnidiaeth a’r seilwaith
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i weld 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at y cartref.