Yn dilyn penwythnos o drafodaethau dwys fe fydd ymdrech olaf i geisio sicrhau cytundeb yn parhau heddiw (ddydd Llun, Rhagfyr 7).
Mae disgwyl i’r Arglwydd Frost, prif drafodwr Llywodraeth San Steffan, a Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, gwrdd ym Mrwsel eto heddiw.
Roedd adroddiadau’n awgrymu eu bod wedi cytuno i gyflwyno newidiadau i fynediad cychod pysgota o’r Undeb Ewropeaidd i’r Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig na fu unrhyw ddatblygiadau ar bysgota ac nad ydynt wedi dod i gytundeb.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen siarad dros y ffon heno a bydd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, hefyd yn mynd i Frwsel i gyfarfod ag Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Maroš Šefčovič.
Ond prin yw’r amser sydd ar ôl erbyn hyn cyn y cyfnod trosglwyddo ar ddiwedd mis Rhagfyr.
‘Gwahaniaethau sylfaenol’
Yn dilyn cyfarfod ddydd Sadwrn, dywedodd Boris Johnson ac Ursula von der Leyen mewn datganiad ar y cyd fod yna “wahaniaethau sylfaenol” rhyngddyn nhw o hyd.
Mae’r rhain yn cynnwys hawliau pysgota, rheolau cystadleuaeth a’r trefniadau llywodraethiant ar gyfer unrhyw fargen.
Yr hyn y cytunir arno yw bod amser yn brin.
Os nad oes cytundeb erbyn diwedd cyfnod pontio Brexit ar ddiwedd y mis, yna bydd Prydain yn gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau ac yn dechrau masnachu gyda’r UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, gyda gosod tariffau a chwotâu.
Mae Ffrainc wedi rhybuddio’n gyhoeddus y bydd yn rhoi feto ar unrhyw fargen os yw’n anhapus â’r telerau.
Mae Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron yn pryderu bod Michel Barnier yn cynnig gormod er mwyn sicrhau cytundeb.
Gwarchod ffiniau Iwerddon
Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin er mwyn penderfynu a fyddan nhw’n gwyrdroi gwelliannau’r Arglwyddi sy’n tynnu gofynion Bil y Farchnad Fewnol allan o ddeddfwriaeth er mwyn gwarchod ffiniau Iwerddon.
Byddan nhw wedyn yn ystyried y Bil Trethi ddydd Mercher.
Mae’r ddeddfwriaeth eisoes wedi cythruddo’r Undeb Ewropeaidd wrth i Lywodraeth Prydain geisio cyflwyno mesurau a fyddai’n eu galluogi i anwybyddu amodau’r fargen.
Mae Bil y Farchad Fewnol wedi’i feirniadu’n llym gan Dŷ’r Arglwyddi.