Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi cefnogi, o 367 pleidlais i 209, mwyafrif o 158, gam trawsbleidiol i sicrhau bod llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael llais a phwerau wrth weithredu marchnad fewnol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r ergyd ddiweddaraf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn beirniadaeth o’r Prif Weinidog, Boris Johnson, am alw datganoli yn yr Alban yn “drychineb”.

Yr wythnos ddiwethaf, dioddefodd y ddeddfwriaeth arfaethedig ddwy golled yn Nhy’r Arglwyddi, gyda’r Arglwyddi’n cael gwared ar bwerau fyddai’n torri cyfraith ryngwladol gan alluogi gweinidogion i ddiystyru rhannau o’r Cytundeb Ymadael a wnaed gyda Brwsel y llynedd.

Nod y newid sydd wedi cael cefnogaeth yr Arglwyddi heddiw yw rhoi rôl allweddol i’r llywodraethau datganoledig o ran trefnu marchnad sengl y DU drwy’r hyn a elwir yn ‘fframweithiau cyffredin’ – fframweithiau sy’n rheoli graddau’r gwahaniaethu a wneir ar draws meysydd polisi.

Mae Bil y Farchad Fewnol wedi’i feirniadu’n llym am fynd yn groes i’r drefn hon, gyda rheolau i gael eu gosod yn ganolog gan lywodraeth San Steffan.

Yr Arglwydd Hope yn beirniadu

Yn ystod y ddadl, bu i sawl aelod rybuddio y bydd perthynas San Steffan â’r gwledydd datganoledig yn cael ei thanseilio gan Bil y Farchnad Fewnol.

Dywedodd yr Arglwydd Hope o Craighead, a gynigiodd y gwelliant, y byddai’r gwelliant trawsbleidiol yn caniatáu i’r ddwy system weithio tuag at yr un nod cyffredin yn hytrach na thanseilio’r broses sefydledig.

Dywedodd yr Arglwydd Hope y gallai’r farchnad fewnol gael ei chreu gan gydweithio o dan y broses fframweithiau cyffredin yn hytrach na drwy “orfodaeth, fel y mae’r Bil yn ceisio ei wneud”.

Dywedodd fod y broses fframweithiau cyffredin wedi’i chynllunio i greu “perthynas waith gytûn” rhwng San Steffan a’r gweinyddiaethau datganoledig wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn gandryll bod y broses bellach mewn perygl o gael ei thanseilio.

Rhybuddiodd: “Nid yn unig y mae’r Bil yn anwybyddu’r broses fframweithiau cyffredin, mae’n dinistrio un o elfennau allweddol y broses honno, a ddaeth â’r gweinyddiaethau datganoledig i mewn iddi yn y lle cyntaf.

“Mae’n dinistrio ymwahanu polisi. Mae’n dinistrio gallu’r gweinyddiaethau hynny drwy’r broses honno i wasanaethu buddiannau eu pobl eu hunain ac arloesi.”

“Y cwestiwn oedd a ddylai’r gwledydd datganoledig barhau i fod yn rhydd i ddatblygu a chymhwyso polisïau marchnad o fewn eu mandad datganoli, sydd wedi sicrhau cytundeb o dan y broses fframweithiau cyffredin, neu a ddylid brwsio’r rhyddid hwnnw o’r neilltu fel y mae’r Bil hwn yn ceisio’i wneud mewn gwirionedd.

“Mae’n anodd osgoi’r casgliad bod y Llywodraeth hon mewn gwirionedd yn ystyried datganoli fel anghyfleustra y gellir ei anwybyddu pan fydd yn dymuno gwneud hynny. Gresynaf hynny’n fawr iawn.”

“Chwalu’r Deyrnas Unedig”

Dywedodd cyn-Weinidog yr Alban, yr Arglwydd Foulkes o Cumnock (Llafur): “Mae’n well sicrhau consensws drwy weithdrefn fframweithiau cyffredin – gweithdrefn lle gellir dod i gytundeb ac os na ellir dod i gytundeb mae mecanweithiau ar gyfer datrys hynny, yn hytrach na gorfodaeth drwsgl Bil y Farchnad Fewnol.”

Rhybuddiodd cyn-gyfreithiwr cyffredinol y Torïaid, yr Arglwydd Garnier, y byddai’r system fframweithiau cyffredin yn ddiangen pe na byddai’r Bil yn cael ei newid ac y byddai hynny yn ei dro yn “annog a hyd yn oed cyflymu’r broses o chwalu’r Deyrnas Unedig”.

Lleisiau o Gymru

Dywedodd y cyn-AoS Farwnes Randerson o’r Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd am gyfnod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru: “Mae’r Bil hwn yn ergyd bwriadol ar holl sail datganoli. Fe’i cynlluniwyd i lesteirio datganoli a rhybuddiaf y Llywodraeth fod eu tactegau’n beryglus a’u bod yn chwarae gyda thân.”

Dywedodd Farwnes Finlay o Landaf ei fod yn “sathru ar allu’r seneddau etholedig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i’r problemau sy’n ein hwynebu”.

Rhybuddiodd pe bai’r ddeddfwriaeth yn cael ei basio heb ei newid, y byddai’n cyflwyno “iron curtain” ar allu’r gweinyddiaethau datganoledig i weithredu’n effeithiol.

Dywedodd cyn-weinidog Torïaidd, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, fod y broses fframweithiau cyffredin wedi bod yn llwyddiant, gan rybuddio na fyddai ymdrech y Llywodraeth i ganoli pŵer yn gweithio.

“Senedd y Deyrnas Unedig yw’r lle cywir i wneud penderfyniadau terfynol ar y farchnad fewnol”

Wrth ymateb ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd gweinidog Swyddfa’r Cabinet, yr Arglwydd True: “Mae marchnad fewnol ddidrafferth sy’n gweithio o fudd i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.

“Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir… mai Senedd y Deyrnas Unedig yw’r lle cywir i wneud penderfyniadau terfynol ar y farchnad fewnol, lle gall seneddwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig drafod a phleidleisio ar gynigion deddfwriaethol.”

Ychwanegodd: “Yn ein barn ni, mae’r dull eang hwn o ddefnyddio fframweithiau cyffredin i ddatgymhwyso elfennau o’r Bil yn mynd yn rhy bell a gallai arwain at ansicrwydd cyfreithiol a rheoleiddiol.”