Boris Johnson yw’r “perygl mwyaf” i ddyfodol y Deyrnas Unedig, yn ôl Arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer.
Daeth y Prif Weinidog o dan bwysau sylweddol mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Tachwedd 18), wrth iddo gael ei lambastio am ei sylwadau am ddatganoli a chytundebau coronafeirws y Llywodraeth.
Ymddangosodd Boris Johnson ar sgriniau teledu yn siambr Tŷ’r Cyffredin ar ôl cael ei gyfyngu i Rhif 10 Downing yn dilyn cyswllt â’r AS Torïaidd, Lee Anderson, a brofodd yn bositif am y coronafeirws.
Gofynnodd Keir Starmer pam yr oedd wedi dweud bod datganoli yn yr Alban yn “drychineb”, cyn codi pryderon pellach ynghylch sut y mae arian trethdalwyr wedi’i wario ar sicrhau offer hanfodol yn ystod y pandemig.
Mynnodd arweinydd y Blaid Lafur gael sicrwydd y byddai cytundebau’r Llywodraeth yn y dyfodol yn ddarostyngedig i’r prosesau priodol.
Daeth ei sylwadau ar ôl i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ganfod diffyg tryloywder o ran rhai o’r penderfyniadau allweddol a wnaed wrth i £18 biliwn o gytundebau coronafeirws gael eu dyfarnu erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Ymatebodd Mr Johnson drwy alw Keir Starmer yn “Captain Hindsight“, ac amddiffynnodd ymdrechion y Llywodraeth i sicrhau cyfarpar diogelu personol.
Galw ar Boris Johnson i egluro ei hun ar ddatganoli
Wrth agor Cwestiynau’r Prif Weinidog, disgrifiodd Syr Keir Starmer ddatganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel “un o gyflawniadau mwyaf y llywodraeth Lafur ddiwethaf.”
Pwysodd ar y Prif Weinidog i egluro ei sylwadau bod datganoli’n “drychineb i’r gogledd o’r ffin” yn yr Alban.
Atebodd y Prif Weinidog: “Rwy’n credu mai’r hyn sydd wedi bod yn drychineb yn ddi-os yw’r ffordd y mae’r SNP wedi cymryd a defnyddio datganoli, nid fel modd i wella bywydau eu hetholwyr, nid i fynd i’r afael â’u pryderon iechyd, nid i wella addysg yn yr Alban, ond yn gyson – a gwn fod hwn mewn gwirionedd yn safbwynt sy’n cael ei rannu ganddo [Keir Starmer] – i ymgyrchu dros chwalu ein gwlad.
“I droi datganoli, sydd fel arall yn bolisi cadarn yr oeddwn i fy hun wedi elwa’n bersonol ohono pan yr oeddwn yn rhedeg Llundain… ond i droi datganoli’n ymgyrch i chwalu’r Deyrnas Unedig.
“Byddai hynny, yn fy marn i, yn drychineb.”
Dywedodd Keir Starmer mai’r “bygythiad mwyaf i ddyfodol y Deyrnas Unedig yw’r Prif Weinidog, bob tro y bydd yn agor ei geg.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Pan ddywedodd y Prif Weinidog ei fod am gymryd rheolaeth yn ôl, nid oedd neb yn meddwl ei fod yn golygu gan bobol yr Alban.
“Mae dyfyniad y Prif Weinidog yn glir iawn – dywedodd fod datganoli wedi bod yn drychineb i’r gogledd o’r ffin.”
Cyhuddo’r Llywodraeth o gamddefnyddio arian cyhoeddus
Aeth Mr Starmer ymlaen i gyhuddo’r Llywodraeth o beidio â chynoerthwyo pobl yn ariannol i hunanynysu ac o gamddefnyddio arian cyhoeddus.
Ychwanegodd: “Fe ddysgon ni’r wythnos hon ei bod nhw’n gallu dod o hyd i £21 miliwn o arian trethdalwyr i dalu person i ddarparu cytundebau ar ran yr Adran Iechyd.
“Rwy’n atgoffa’r Prif Weinidog nad oedd yn gallu dod o hyd i’r swm hwnnw o arian ar gyfer prydau ysgol am ddim i blant dros hanner tymor ychydig wythnosau’n ôl.
“A yw’r Prif Weinidog yn credu bod £21 miliwn i middle man yn ddefnydd derbyniol o arian trethdalwyr?”
Dywedodd y Prif Weinidog fod Syr Keir Starmer wedi annog dileu “rhwystrau” yn y broses gaffael i sicrhau PPE, gan ychwanegu: “Roeddem yn wynebu sefyllfa anodd iawn lle nad oedd cyflenwadau digonol o PPE ar draws y byd. Doedd gan neb ddigon o PPE.
“Symudom y nefoedd a’r ddaear i gael 32 biliwn o eitemau o PPE i’r wlad hon. Rwy’n falch iawn o’r hyn sydd wedi’i gyflawni.”
Pwysodd Syr Keir ymhellach ar gytundebau coronafeirws, gan dynnu sylw at adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
Dywedodd fod “cyflenwyr â chysylltiadau gwleidyddol 10 gwaith yn fwy tebygol o gael cytundebau” gan y Llywodraeth.
“All y Prif Weinidog roi sicrwydd cadarn y bydd holl gytundebau’r Llywodraeth o hyn ymlaen yn destun proses briodol, gyda thryloywder ac atebolrwydd llawn?”
Atebodd Mr Johnson: “Mae holl gytundebau’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn mynd i gael eu cyhoeddi maes o law ac maen nhw eisoes yn cael eu cyhoeddi.”