Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, wedi profi’n negyddol am y coronafeirws ond yn parhau i hunanynysu, yn ôl Downing Street.

Mae e wedi bod yn hunanynysu yn Downing Street ers iddo fe gael e-bost yn dweud bod yr Aelod Seneddol Torïaidd Lee Anderson, oedd wedi ymweld ar gyfer cyfarfod brecwast ddydd Iau diwethaf, wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

“Cafodd y Prif Weinidog brawf ddoe ac roedd y prawf hwnnw’n negyddol,” meddai llefarydd.

“Ond yn unol â’r rheolau, bydd yn parhau i hunanynysu.”

Mae’n gweithio o swyddfa yn Rhif 10 sy’n ei alluogi i symud o’i fflat yn Rhif 11 heb ddod i gysylltiad â staff Downing Street.

Mae Rhif 10 yn mynnu y bydd yn cadw at reolau hunanynysu, a fydd yn ei gadw yn Downing Street nes bod 14 diwrnod wedi pasio ers iddo gynnal cyfarfod â Lee Anderson.

“Lluniwyd y rheolau’n ofalus ar sail y cyngor meddygol gorau presennol, a hynny yw os ydych dod i gysylltiad â rhywun sy’n profi’n bositif am y coronafeirws, mae angen i chi hunanynysu am gyfnod o 14 diwrnod o’r cyswllt cyntaf hwnnw,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r rheolau’r un fath i bawb ym mhob rhan o’r wlad ac mae’r Prif Weinidog yn eu dilyn, yr un fath â phob aelod arall o’r cyhoedd.”

Fel arfer, dydy pobol sy’n hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif ddim yn gymwys i gael prawf oni bai eu bod yn datblygu symptomau.