Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwydiant dur yn dychwelyd i ddwylo Cymru.

Cyhoeddodd cwmni Tata Steel yr wythnos ddiwethaf fod trafodaethau ar y gweill i wahanu gweithrediadau Prydeinig oddi wrth weithrediadau Ewropeaidd yn sgil Brexit, gan roi 8,000 o swyddi yn y fantol.

Mae Tata yn awyddus i gael sicrwydd ariannol o £500m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o Fenter Prosiect Birch.

Yn ystod yr argyfwng diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ariannu rheolaeth Excalibur ym Mhort Talbot, oedd yn werth £750,000.

Yn ôl Adam Price, yr unig ateb tymor hir yw dychwelyd rheolaeth o ddur Cymru i ddwylo Cymru, ac mae hefyd yn galw ar y prif weinidog Mark Drakeford i greu “strategaeth amgen” ar gyfer dyfodol safle Port Talbot.

Byddai’r fath strategaeth yn cynnwys:

  • cynnal gweithfeydd Port Talbot fel ag y maen nhw yn y tymor byr a chanolig
  • buddsoddi yn natblygiad cynhyrchu dur yn seiliedig ar hydrogen yng Nghymru
  • sicrhau bod gweithfeydd Port Talbot yn defnyddio technoleg newydd i gynhyrchu dur carbon niwtral erbyn 2035.

Ond mae Mark Drakeford yn dweud na fyddai Llywodraeth Cymru’n barod i gymryd rheolaeth o ddur.

‘Pryder mawr’

“Fe wnaeth cyhoeddiad Tata dros y penwythnos achosi pryder mawr i gymunedau Port Talbot sydd wedi cadw tân ein ffwrneisi economaidd ynghyn ers nifer o ddegawdau,” meddai Adam Price.

“Yr unig ddyfodol diogel a chynaladwy i Bort Talbot a ffatrïoedd eraill Cymru yn y tymor hir yw dychwelyd perchnogaeth o’r diwydiant dur yng Nghymru yn ôl i ddwylo Cymru – a sicrhau bod gan ein gweithwyr a’u cymunedau sedd wrth y bwrdd.”

Mae’n dweud mai’r cam cyntaf fyddai gwladoli, ailgyflwyno cyfalaf drwy gynllun tebyg i’r hyn sydd wedi’i hybu’n ddiweddar gan yr OECD ac yna i greu cynllun cydweithredol ar gyfer dur.

“Mae Dŵr Cymru wedi bod yn llwyddiannus, felly pam ddim Dur Cymru?” meddai wedyn.

“Mae hanes wedi ein dysgu ni na allwn ni ddibynnu ar San Steffan i ddatrys problemau Cymru.

“Pan fo Cymru’n gwneud pethau’n wahanol, mae’n gwneud pethau’n well.

“Nawr yw’r amser i ddangos y gwahaniaeth y gall cael ein llywodraeth ein hunain ei wneud wrth gyflwyno cynnig amgen i warchod swyddi a bywoliaethau ym Mhort Talbot a’r cyffiniau.”