Cafodd tîm Ifor Williams Trailers, sy’n noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam, eu “syfrdanu a’u llorio” gan y cyhoeddiad bod y sêr ffilm Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb ac maen nhw wedi cychwyn y cyfnod newydd gyda fideo doniol.

Mae llawer o’r staff sy’n gweithio yn Ifor Williams Trailers yn gefnogwyr brwd ac roedden nhw wrth eu boddau o weld bod y fideo wedi cael ei gwylio 4.5 miliwn o weithiau o fewn 24 awr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cynhaliwyd dau Gyfarfod Cyffredinol Arbennig o grŵp cefnogwyr-berchnogion Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (WST), y cyntaf gyda chytundeb o 97.5% y dylid cynnal trafodaethau, a’r ail i “gymeradwyo’n ddiymdroi ac yn ddiamau” y cytundeb a gafodd ei gyflwyno.

Pleidleisiodd 98.4% o blaid gwerthu, gyda 1,801 o gefnogwyr yn pleidleisio o blaid, 29 yn erbyn ac 11 yn ymatal.

Dywedodd Ryan Reynolds a’i gyd-actor Rob McElhenney wrth aelodau’r Ymddiriedolaeth eu bod nhw am droi Wrecsam yn “rym byd-eang”.

Wrth gyhoeddi canlyniad y bleidlais ar Twitter, cyfeiriodd y ddau yn gyson at gynnyrch y cwmni trelars, sydd wedi bod yn brif noddwr crysau Wrecsam ers 2016.

“Cawsom ein syfrdanu a’n llorio”

Roedd Carole Williams, cyfarwyddwr Ifor Williams Trailers, wrth ei bodd gyda chanlyniad y bleidlais – a’r ffordd y cafodd ei chyhoeddi.

“Cawsom ein syfrdanu a’n llorio gan y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad,” meddai.

“Nid yn annisgwyl, cafodd ei wneud mewn ffordd ddoniol a hollol wreiddiol.

“Ond peidiwch â meddwl am eiliad bod Ryan a Rob yn cymryd eu cyfrifoldebau yn ysgafn. Maen nhw o ddifrif ynglŷn ag adfywio’r clwb a’i drawsnewid yn rym byd-eang – ond sydd ddim yn anghofio ei wreiddiau.

“Y rheswm roedd Ifor Williams Trailers yn teimlo bod Wrecsam yn gweddu’n berffaith i’r cwmni oedd enw da’r clwb fel clwb llawr gwlad, sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n canolbwyntio ar y cefnogwyr hefyd.

“Roeddem yn falch iawn o glywed bod Ryan a Rob wedi addo atgyfnerthu gwerthoedd, traddodiadau ac etifeddiaeth y gymuned hon.

“Maen nhw’n amlwg wedi gweld teyrngarwch angerddol y cefnogwyr a beth mae’r clwb yn ei olygu iddyn nhw a sut mae’r cariad hwnnw yn rhan annatod o’r dref a’r gymuned ehangach.

“Yn sicr mae Ryan a Rob wedi cychwyn ar y droed iawn ac mae’r cefnogwyr reit y tu ôl iddyn nhw, fel ninnau yn Ifor Williams Trailers. Ac fel yr holl gefnogwyr eraill, rydym yn breuddwydio am ddiweddglo hapus Hollywoodaidd.”

“Dyma’n union beth oedd ei angen ar Wrecsam”

Dywed y cwmni eu bod wedi eu calonogi gan addewid y ddau seren ffilm i barhau â ffocws cymunedol y clwb.

“Dyma’n union beth oedd ei angen ar Wrecsam. Mae gennym ni’r buddsoddiad rŵan i fynd i’r lefel nesaf,” meddai Martin Bodden, gweithiwr cymorth cynhyrchu’r cwmni.

“Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi gwneud eu gwaith ymchwil ar y clwb ac ar yr ardal ac yn sicr mae yma sylfaen gadarn o gefnogwyr.

“Rwy’n hyderus y gallwn gyrraedd y Bencampwriaeth o leiaf ond rwy’n gobeithio’n fawr hefyd y gallwn gyrraedd yr Uwch Gynghrair.”

“Rwyf wedi bod yn gefnogwr Wrecsam ers cyn cof,” meddai Kyle Jones, un arall o staff y cwmni.

“Mae yna lawer o fyny ac i lawr wedi bod ond mae yn y gwaed. Dyna’r angerdd.

“Mae’r cyfan yn gyffrous iawn. Bydd hyn yn rhoi hwb i ni ddod allan o’r Gynghrair Genedlaethol ac yna symud ymlaen.”