Mae mwyafrif llethol cefnogwyr Wrecsam wedi rhoi dyfodol eu clwb yn nwylo actorion o America…

Mae un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd hefyd yn Gynghorydd Sir yn y dref, yn dweud bod cynnig dau o sêr Hollywood i brynu’r clwb “yn rhy dda i’w wrthod” – er ei fod e’n dweud ei fod e’n amheus i ddechrau.