Efallai ei bod hi’n ymddangos fel petai’r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar – cwpwl o frechlynnau addawol yn dod a Don a Dom yn mynd… y cyfan o fewn rhyw bythefnos.

Ond mae yna arwyddion bygythiol – gan gynnwys yr holl Santa Closus a’r goleuadau Nadolig sydd eisoes yn ymddangos… awgrym fod pobol yn dyheu am fynd dros ben llestri.