Mae Gareth Bale yn dweud ei bod yn “bwysig codi’r ysbryd” ar ôl i garfan bêl-droed Cymru groesawu dau ddigrifwr i westy’r Vale i’w diddanu neithiwr (nos Lun, Tachwedd 16).

Mae’r sîn gomedi – a’r celfyddydau’n ehangach – wedi diodde’n sylweddol yng Nghymru yn sgil y coronafeirws, ac mae dod ynghyd yn ystod y pandemig wedi bod yn brofiad gwahanol i’r pêl-droedwyr hefyd, wrth iddyn nhw dreulio cyfnodau ar wahân yn eu hystafelloedd a chadw pellter oddi wrth ei gilydd i ffwrdd o’r cae wrth iddyn nhw ddilyn protocol.

Maen nhw wedi bod yn paratoi i herio’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd nos yfory (nos Fercher, Tachwedd 18).

Ac mae Gareth Bale yn pwysleisio bod y garfan hefyd wedi cadw pellter yn ystod y gig comedi neithiwr, wrth iddyn nhw gael eu diddanu gan Leroy Brito, un o sêr y gyfres Tourist Trap ar y BBC, ac Ignacio Lopez, oedd wedi trefnu’r gig ar gyfer elusen Orchard.

“Mae’n bwysig codi’r ysbryd ac atal pawb rhag diflasu’n ormodol,” meddai Gareth Bale wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi cael sawl peth tebyg sydd wedi cadw’r bois ychydig yn hapusach, ychydig o adloniant wedi’i drefnu yn y ffordd briodol.

“Roedden ni i gyd wedi cadw pellter cymdeithasol gan sicrhau ein bod ni’n cadw at y rheolau.

“Mae’n bwysig codi’r ysbryd, yn enwedig ar adegau fel hyn pan all fod ychydig yn ddiflas yn eich ystafell ar eich pen eich hun.

“Fe gawson ni dipyn o hwyl, ac mae wedi dod â diddanwch i’r garfan.”

Brawdoliaeth ar y cae

Wrth ddod ynghyd i fwynhau cwmni ei gilydd oddi ar y cae, mae Gareth Bale yn dweud bod hynny yr un mor bwysig â brawdoliaeth ar y cae, a bod y naill yn arwain at y llall.

“Dw i’n credu mai dyna pam ein bod ni’n cael canlyniadau positif,” meddai.

“Dw i’n credu bod pawb yn gyfforddus yng nghwmni ei gilydd a dw i’n credu bod dod ymlaen oddi ar y cae yn ein helpu ni ar y cae.

“Rydyn ni bob amser wedi teimlo hynny yng Nghymru gydag ysbryd y tîm sydd wedi bod gyda ni, ac rydyn ni wedi cadw hynny i fynd ar hyd y blynyddoedd.”

Ond pwy, tybed, yw’r digrifwr o blith chwaraewyr Cymru?

“Mae Wayne [Hennessey] bob amser yn ddigrifwr!” meddai.

“Rydyn ni bob amser yn chwerthin ac yn rhannu jôc.

“Mae’r bois o hyd yn chwarae jôcs ar ei gilydd bob hyn a hyn.

“Mae gyda ni griw da yma.

“Rydyn ni o hyd yn chwerthin ac yn codi’r ysbryd bob amser ac mae’n dipyn o hwyl cael bod yn y garfan.”