Mae Robert Page, rheolwr dros dro tîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod yr holl chwaraewyr wedi cael profion coronafeirws negyddol yn dilyn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Sul (Tachwedd 15).

Byddan nhw’n herio’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos yfory (nos Fercher, Tachwedd 18), ddyddiau’n unig ar ôl i Matt Doherty a James McClean, dau o’r Gwyddelod, brofi’n bositif a gorfod hunanynysu.

“Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi cael amser anodd gyda nifer y bobol sydd wedi profi’n bositif, ac wrth gwrs y bu’n bryder i ni,” meddai.

“Ond rydyn ni wedi profi’r chwaraewyr ac maen nhw i gyd wedi dod yn ôl yn negyddol, diolch byth.

“Mae’r tîm meddygol wedi edrych yn ôl ar y gêm a does dim pryderon o gwbl.”

Yn ôl Page, cynllunio da yw’r gyfrinach i sicrhau iechyd y chwaraewyr.

“Rydyn ni’n teimlo bod yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yn gynllunio da.

“Wrth gwrs fod yna gyswllt ar y cae.”Rydyn ni wedi gwylio’r gêm yn ôl ac mae’n anodd dweud pa mor hir mae’n rhaid i chi fod mewn cysylltiad hefyd.

“Os oes yna unrhyw risg o gwbl, wnawn ni ddim ei gymryd.

“Ond mae ein protocolau meddygol heb eu hail ac rydyn ni wedi cael profion negyddol yn barhaus felly mae’n dangos ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn.”