Mae Tottenham Hotspur yn barod i weld y gorau o Gareth Bale, yn ôl cyn-asgellwr Real Madrid Steve McManaman.
Mae’r Cymro yn agosáu at ffitrwydd llawn ar ôl anaf i’w ben-glin, sydd wedi golygu bod ei ail gyfnod yng ngogledd Llundain wedi dechrau’n araf.
Roedd arwyddion cyn yr egwyl ryngwladol fod Bale yn agosáu at ffitrwydd llawn, wrth iddo sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Brighton, a bydd chwarae i Gymru dros yr wythnos ddiwethaf wedi ei helpu ymhellach.
Mae’n debygol o fod yn ganolog i gynlluniau Jose Mourinho pan fydd Tottenham yn herio Manchester City ddydd Sadwrn (Tachwedd 21), ac mae McManaman yn dweud y gallai fynd â Spurs “i’r lefel nesaf”.
“Dw i’n credu y bydd yn cael effaith enfawr gan nad yw wedi colli ei gyflymder,” meddai.
“Mae’n edrych fel petai’n barod i brofi pwynt ac mae ganddo lawer o bwyntiau i’w profi.
“Os yw’n aros yn ffit nawr ac yn chwarae 40 gêm i Tottenham, bydd yn sicr yn sgorio tua 20 gôl… allwch chi ddim prynu’r mathau hynny o rifau.
“Os bydd yn aros yn heini, bydd yn sicr yn codi Tottenham i’r lefel nesaf yn yr Uwch Gynghrair a chystadlaethau eraill y tymor hwn.”