Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yw “cadarnle olaf gormes drefedigaethol”, yn ôl cyn-wicedwr Morgannwg a’r cyn-ddyfarnwr Ismail Dawood.
Mae e’n un o ddau ddyfarnwr sy’n galw am ymchwiliad i ddiffyg dyfarnwyr o gefndiroedd BAME yn y gamp.
Fu yna’r un dyfarnwr o gefndir BAME ar lefel ucha’r gêm sirol ers i John Holder ymddeol 11 o flynyddoedd yn ôl.
Fe wnaeth Ismail Dawood ymddeol fel chwaraewr yn 2005 ar ôl chwarae i Swydd Northampton, Swydd Gaerwrangon, Morgannwg a Swydd Efrog ond gyrfa ddigon byr gafodd e yn ddyfarnwr wedyn.
Mae mudiad Stump Out Racism, a gafodd ei sefydlu i fynd i’r afael â hiliaeth yn y byd criced, yn cyhuddo Bwrdd Criced Cymru a Lloegr o “hiliaeth fileinig a sefydliadol”, ac maen nhw’n galw am ymchwiliad annibynnol gan farnwr a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n ymddiried yn y ffordd y mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi mynd i’r afael â “hiliaeth sefydliadol”, a bod ganddyn nhw dystiolaeth o “rwystro ac ymyrryd mewn cwynion difrifol”.
Ymateb y dyfarnwyr
Yn ôl Ismail Dawood, cafodd ei yrfa fel dyfarnwr ei chwtogi oherwydd ei gefndir a bod yr iaith a glywodd ar hyd y blynyddoedd yn “erchyll”.
“Cafodd peth o’r iaith hon ei defnyddio o flaen uwch-reolwyr yr ECB, ac roeddwn i’n cael hynny’n frawychus iawn,” meddai.
“Ar ôl gweithio mewn sawl sector adeiladol yn y byd criced, dw i’n teimlo mai’r ECB yw cadarnle olaf gormes drefedigaethol, mae’n hynafol a rhethreg farchnata yn unig yw unrhyw newid.
“Mae’r nenfwd o wydr yn eithriadol o isel i unigolion BAME, gyda hiliaeth sefydliadol wrth galon hynny.
“Dw i’n teimlo fy mod i wedi dod ar draws neilltuo ar sail hil, anonestrwydd a chamwybodaeth, ffrindgarwch, bwlio, a’r cyfan yn ddwfn wrth wraidd y sefydliad.
“Roedd yn lle ynysig i berson o gefndir BAME, i’r fath raddau hyd nesa fy mod i wedi fy amddifadu o symud ymlaen.
“Byddai’n ddiddorol gweld beth mae’r noddwyr yn meddwl am hiliaeth sefydliadol oherwydd mae angen iddyn nhw weithredu hefyd i atal hiliaeth.
“Mae angen newid arnom, a rhaid i’r ECB weithredu i sicrhau cydraddoldeb go iawn ac i adeiladu dyfodol gwell.”
‘Polisi o gyflogi pobol wyn’
Yn ôl John Holder, fe fu gan yr ECB “bolisi o gyflogi pobol wyn” i ddyfarnu.
Fe wnaeth e ddyfarnu mewn 11 gêm brawf ac 19 gêm undydd ryngwladol yn unig yn ystod ei yrfa, ac yntau’n un o’r dyfarnwyr amlycaf ar y pryd.
“Mae 11 mlynedd bellach ers fy ymddeoliad a deng mlynedd i Vanburn (Holder) a does yna’r un dyfarnwr nad yw’n wyn wedi’i ychwanegu at y Panel, ond mae nifer wedi bod yn y gêm,” meddai.
“Dw i’n tybio y bu yna bolisi pendant o gyflogi pobol wyn yn unig ar gyfer y swydd.
“Mae angen polisi tryloyw o ran dewis, hyfforddi a mentora dyfarnwyr nad yw’n bodoli ar hyn o bryd.”
‘Ffordd bell i fynd’
Mewn datganiad, dywed Bwrdd Criced Cymru a Lloegr eu bod nhw wedi ymrwymo i amrywiaeth ymhlith swyddogion gemau, ond fod “ffordd bell i fynd”.
“Dydy’r criw o ddyfarnwyr heddiw ddim yn adlewyrchu’r ECB amrywiol rydyn ni’n benderfynol o fod,” meddai llefarydd.
“Rydyn ni am weld mwy o gynrychiolaeth BAME ymhlith ein swyddogion, ac yn cydnabod fod ffordd bell i fynd o hyd fel camp i gyflawni hyn.
“Yn gynharach eleni, fe wnaethon ni gomisiynu ymchwiliad cyflogaeth annibynnol llawn i honiadau a gafodd eu gwneud yn erbyn unigolion a thra na chafodd y rhain eu derbyn, fe wnaeth yr ymchwiliad nodi meysydd lle mae angen i ni fod yn well a gwneud mwy i fod yn gynhwysol ac amrywiol.
“Mae’r ECB bellach wedi comisiynu adolygiad, gyda’r Bwrdd yn ei oruchwylio, i edrych ar sut y gallwn ni ddiwygio ein dull o reoli swyddogion gemau.
“Bydd hyn yn amlinellu gweithredoedd o ran sut y gallwn ni wella ein systemau a’n prosesau i gynyddu amrywiaeth o fewn dyfarnu, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddyfarnwyr ac uwch-ddyfarnwyr, cael rhaglen ddyfarnu o safon fyd-eang a sicrhau diwylliant cynhwysol a thegwch yn y system ddyfarnu drwyddi draw.”