Fe wnaeth y Gleision guro Benetton o 22-5 yn Rodney Parade neithiwr (nos Lun, Tachwedd 16) i ddod â rhediad o dair colled yn y PRO14 i ben.

Sgoriodd Rory Thornton, Ben Thomas ac Owen Lane gais yr un i godi eu tîm i’r ail safle yng Nghyngres B, ochr yn ochr â’r Scarlets.

Ciciodd Jarrod Evans gic gosb a dau drosiad wrth i’r Eidalwyr barhau heb fuddugoliaeth yn y gynghrair y tymor hwn.

Ond fe wnaethon nhw sgorio cais cysur drwy’r eilydd Tomas Baravalle.

Fe wnaeth y blaenasgellwr Jim Botham dynnu’n ôl ar y funud olaf ar ôl cael ei alw i garfan Cymru.