Mae Lewis Hamilton newydd ennill ei seithfed pencampwriaeth Fformiwla Un ar ôl ennill ras wlyb yn Nhwrci dros y penwythnos.

Y Sais o Stevenage bellach yw’r dyn â’r nifer fwyaf o fuddugoliaethau, pole positions ac achlysuron yn sefyll ar podiwm –  mwy nag unrhyw yrrwr arall yn y 70 mlynedd o hanes F1.

A nawr, mae e hefyd yn gyfartal â Michael Schumacher gyda saith pencampwriaeth byd. Tipyn o gamp.

Y siwrne i F1

I ddechrau deall siwrne Hamilton, mae rhaid mynd nôl at ei blentyndod.

Cafodd ei eni yn Stevenage, Swydd Hertford, i deulu gweddol difreintiedig – peth eithaf anghyffredin ym myd raswyr ceir, sy’n aml yn dod o deuluoedd cefnog.

Yn aml iawn, cânt gymorth rhieni cyfoethog sydd â’r arian i’w cefnogi.

Cafodd Hamilton ddechrau anghyffredin iawn i’w yrfa rasio – pan oedd Lewis yn chwe blwydd oed, prynodd ei rieni degan remote control iddo, a thrwy hyn, yn ôl ei dad, Anthony, roedd yn amlwg fod dawn arbennig ganddo am rasio.

Roedd trosi i fyd y carts felly yn ddewis amlwg.

Ond mae cartio yn gamp ddrud. Roedd angen i’w dad weithio hyd at bedair swydd i gynnal gyrfa Lewis yn cartio.

Ar ôl profiad llwyddiannus yn y byd cartio, cafodd e wahoddiad i noson wobrau Autosport lle cyflwynodd Hamilton ei hun i bennaeth un o dimoedd mwyaf llewyrchus Fformiwla Un, Ron Dennis o McLaren.

Wrth gyflwyno’i hun, dywedodd yr Hamilton 10 oed, ’dw i am yrru un o’ch ceir chi un dydd!’ …ac mi wnaeth. Ar ôl y foment honno penderfynodd Dennis noddi ei yrfa reit lan at roi cyfle i Hamilton wneud ei debut Fformiwla Un yn Awstralia yn 2007 mewn McLaren.

Hamilton v Alonso

Ei gyd-yrrwr yn McLaren yn 2007 oedd pencampwr y byd ar y pryd – Fernando Alonso.

Yn y ddwy flynedd cyn ymuno â McLaren, bu i Alonso guro Michael Schumacher i’r bencampwriaeth gyda thîm Renault – ac ar ôl i Schumacher ymddeol (y tro cyntaf) ar ddiwedd 2006, Alonso oedd y gyrrwr gorau yn y byd ar y pryd. Fe oedd rhif un – y dyn i’w guro.

Doedd neb yn F1 yn gallu rhagweld boi ifanc o Stevenage yn curo Alonso y flwyddyn honno – dod yn agos? Falle.

Ond daeth yn amlwg yn gynnar iawn – doedd Hamilton ddim yn deall sut i ddod yn ail.

Wnaeth e gymryd dim ond chwe ras i Hamilton gofnodi ei fuddugoliaeth gyntaf yng Nghanada. Ac ar ôl tymor go dynn a chyda’r frwydr yn mynd yn eithaf cas ar adegau yn erbyn Alonso a’r gyrwyr Ferrari, collodd Hamilton y Bencampwriaeth i Kimi Raikkonen o 1 pwynt yn unig.

Roedd hyn yn ddigon i Alonso gadael McLaren ar ôl cwta flwyddyn yn unig. Roedd tymor 2007 yn neges glir i bawb – roedd Hamilton yno i ennill.

Yn 2008, roedd Hamilton yn gymaint fwy hyderus ac roedd ganddo gyd-yrrwr tipyn llai cystadleuol i fecso amdano (Heikki Kovaleinen).

Enillodd Hamilton 5 ras a’r bencampwriaeth am y tro cyntaf gyda diweddglo cyffrous ym Mrasil, gan oddiweddid car ar y gornel olaf ar y lap olaf o ras olaf y flwyddyn.

Mae Hamilton wedi cael sawl cyd-yrrwr cystadleuol ers hynny wrth gwrs, megis Nico Rosberg, Jenson Button a Valtteri Bottas – ond roedd hon yn wers gynnar a phwysig iawn ar sut i drechu’r car arall o fewn y tîm.

Ymuno â Mercedes

Cafodd Hamilton flwyddyn anodd iawn yn 2012. Roedd siawns ganddo ennill y bencampwriaeth yn erbyn Sebastian Vettel, ond diolch i annibynadwyedd y McLaren fe gollodd Hamilton mas ar sawl ras fe allai fod wedi’u hennill.

Roedd e’n ergyd amlwg iddo ond doedd neb yn rhagweld beth oedd i ddod.

Penderfynodd Hamilton adael McLaren, y tîm oedd wedi ei gefnogi ers iddo fod yn blentyn ifanc ac ymuno â thîm a oedd ddim yn gystadleuol iawn ar y pryd, Mercedes.

Cyhuddodd sawl newyddiadurwr Lewis o symud am yr arian yn unig. Ond gydag amser, daeth yn benderfyniad ysbrydoledig.

Yn 2014 cafodd F1 reolau newydd er mwyn ddefnyddio systemau hybrid sy’n fwy cynaliadwy, gan gynnwys defnyddio batris trydanol – ac yn ddiarwybod i bawb, dechreuodd Mercedes weithio ar y dechnoleg yma cyn pawb arall.. ac maen nhw wedi dominyddu ers hynny.

Ymddygiad ar y trac

Yn wahanol i bencampwyr diweddar eraill megis Michael Schumacher, Fernando Alonso, ac Aytron Senna, does dim marc cwestiwn am ymddygiad Hamilton ar y trac.

Mae e bob tro yn rasio’n galed ond deg.

Mae’r gyrwyr eraill yn gwybod bod Lewis am fod yn anodd i’w guro ac yn agos i’r ffiniau – heb eu croesi.

Y gwaith tu allan i’r car

Lewis Hamilton yw’r dyn du cyntaf erioed i gystadlu yn Fformiwla Un. Yn wir, 13 mlynedd ar ôl ei debut, fe yw’r unig ddyn du i gystadlu yn F1 o hyd.

Eleni, ers ymgyrch Black Lives Matter, mae Hamilton wedi cymryd y cyfle sydd ganddo i frwydro dros hawliau lleiafrifoedd – gan gael ymateb ‘anghyffyrddus’ gan rai.

Mae e hefyd yn gwthio am fyd mwy cynaliadwy gan gynnwys rhoi pwysau ar F1 ei hun i ddilyn llwybr mwy gwyrdd.

Ai Hamilton yw’r gorau erioed? Wel, yn sicr dydy e ddim yn yrrwr F1 cyffredin.

Mae e wedi dod o gefndir gwahanol i’r rhan fwyaf ac mae e’n neud pethau’n wahanol i’r rhan fwyaf.

Efallai nad yw’n cael y clod haeddiannol yng ngwasg Prydain – achos does dim dwywaith ei fod yn un o’r ffigyrau chwaraeon pwysicaf i Loegr ei gynhyrchu erioed.

Bydd ei effaith ar y gamp yn para am amser hir iawn… ac mae mwy i ddod…!