Mae asgellwr y Scarlets, Johnny McNicholl, a blaenasgellwr Gleision Caerdydd, James Botham, wedi eu galw i garfan Cymru.

Mae James Botham yn ŵyr i’r cyn-gricedwr a’r arglwydd newydd, Ian Botham.

Er bod Botham wedi hyfforddi gyda’r tîm cenedlaethol o’r blaen dyma’r tro cyntaf i’r chwaraewr 22 oed gael ei gynnwys yn swyddogol.

Mae gan McNicholl, sydd yn enedigol o Seland Newydd, bedwar cap i Gymru, ond cafodd ei adael allan o’r garfan wreiddiol ar gyfer gemau’r Hydref oherwydd anaf.

Ar ôl colli yn erbyn y Gwyddelod yng ngêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd Cymru yn wynebu Georgia ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn, Tachwedd 21.