Mae rhanbarth y Dreigiau wedi penderfynu gohirio eu gêm yn erbyn Caeredin ddydd Llun nesaf, Tachwedd 23, oherwydd achosion o’r coronafeirws o fewn y garfan.
Daw hyn wedi i Undeb Rygbi Cymru a’r Dreigiau benderfynu cau’r rhanbarth yn llwyr am bythefnos wedi i naw achos o’r coronafeirws gael eu cofnodi.
O ganlyniad gohiriwyd gemau yn erbyn Connacht a Glasgow yn gynharach fis Tachwedd.
“Yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Dreigiau wedi penderfynu, gyda chefnogaeth y PRO14, i ynysu am 14 diwrnod ac ni fyddant yn dychwelyd i hyfforddi tan ddiwedd yr wythnos,” meddai’r Dreigiau mewn datganiad.
“Golyga hyn nad oes digon o amser i baratoi yn llawn i ddychwelyd i chwarae.”
Mae disgwyl i’r Dreigiau wynebu Benetton Rugby yn rownd 8 y gystadleuaeth y penwythnos canlynol a bydd gweddill y gemau yn cael eu hail drefnu ddechrau’r flwyddyn nesaf.