Mae Undeb Rygbi Cymru a rhanbarth y Dreigiau wedi penderfynu na fydd y rhanbarth yn chwarae gemau am bythefnos.

Daw’r penderfyniad ar ôl i naw achos o’r coronafeirws gael eu cofnodi o fewn y rhanbarth.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Undeb Rygbi Cymru a’r Dreigiau:

“Gan weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, penderfynwyd cau’r rhanbarth am bythefnos, bydd hyfforddiant a gemau yn cael eu hatal yn ystod y cyfnod hwn.

“Penderfynwyd hyn er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb yn y clwb ac i leihau trosglwyddo pellach.

“Bydd pob chwaraewr, rheolwr a staff yn y rhanbarth yn hunan-ynysu a dilyn holl ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.”

Yn ogystal â’ rhaglen brofi gyfredol, bydd profion ychwanegol yn cael eu defnyddio er mwyn atal lledaeniad pellach.

Y gemau PRO14 yr effeithir arnynt:

Y Dreigiau v Connacht
Glasgow v Y Dreigiau

Does dim penderfyniad eto o ran y gêm yn erbyn Caeredin yn Rownd 7 y gystadleuaeth.

Mae’r PRO14 yn gobeithio ail drefnu’r gemau effeithir arnynt yn 2021.

Ychwanegodd y PRO14 nad oes achosion o’r feirws wedi eu cofnodi ymhlith chwaraewyr a staff Munster a chwaraeodd yn erbyn y Dreigiau’r penwythnos diwethaf.