Bydd rhai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad yn cael eu hanrhydeddu mewn gwaith celf barhaol yng Nghaerdydd.

Nod ‘Un Tîm. Un Ddynoliaeth’ yw sicrhau nad yw hanesion y gymuned amlddiwylliannol yng Nghymru yn cael eu hanghofio.

Bydd y project yn codi arian i greu tri cherflun fydd yn cael eu dewis o blith 13 chwaraewr a wnaeth gyfraniad i Rygbi’r Gynghrair yn ystod y 120 mlynedd diwethaf.

Cafodd pob un o’r tri ar ddeg o enwebeion eu magu o fewn tair milltir i Fae Caerdydd.

Mae’r cyfnod pleidleisio bellach wedi dod i ben ac mae’r canlyniadau wedi eu cyflwyno i’r pwyllgor i’w hystyried.

Bydd enwau’r chwaraewyr fydd yn cael eu hanrhydeddu yn cael eu datgelu yn fuan.

Y dyn busnes, Syr Stanley Thomas OBE, yw cadeirydd y pwyllgor sydd hefyd yn cynnwys arweinwyr cymunedol o Butetown a chynrychiolwyr o Rygbi’r Gynghrair Cymru.

‘Mae’n bryd i Gaerdydd eu dathlu’n briodol’

Cafodd y project ei ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd am deyrnged briodol i’r chwaraewyr.

Mae Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor yw is-gadeirydd y pwyllgor ac mae gan y prosiect gefnogaeth llawn Cyngor Dinas Caerdydd.

“Mae cyflawniadau cynifer o chwaraewyr rygbi amlddiwylliannol Bae Caerdydd wedi cael eu hanwybyddu ers gormod o amser,” meddai.

“Roeddent nid yn unig yn dod ag anrhydedd iddyn nhw eu hunain, eu dinas a’u cenedl, ond hefyd yn helpu i chwalu rhwystrau hiliaeth ac anghyfiawnder cymdeithasol.

“Gwnaethant gamu’n hyderus i’r byd ehangach, ac mae eu hesiampl a’u cyflawniadau yn ysbrydoliaeth i ni a chenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’n bryd i Gaerdydd eu dathlu’n briodol”

Un arall sydd wedi cefnogi’r prosiect yw llefarydd Tŷ’r cyffredin, Lesley Hoyle.

“Rwy’n llwyr gefnogi’r ymgyrch i roi cydnabyddiaeth i dorwyr cod ar ffurf cerflun.

“Rwy’n siŵr y bydd yr ymgyrch yn cael llawer iawn o gefnogaeth, nid yn unig yn ne Cymru ond ledled y Deyrnas Unedig ac yn sicrhau bod y chwaraewyr o’r ardal arbennig iawn hon yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.”

Yr 13 chwaraewr: