Wrth i Gaerdydd anelu am ddwy fuddugoliaeth gartref yn olynol yr wythnos hon, mae’r chwaraewr canol cae Marlon Pack wedi galw am gadw’r momentwm.

Mae tîm Neil Harris yn y 13eg safle yn y Bencampwriaeth, pedwar pwynt oddi wrth safleoedd y gemau ail-gyfle.

“Roedd yn berfformiad da ddydd Mawrth i gael y tri phwynt yn erbyn Barnsley,” meddai Pack.

“Rwy’n credu, gyda’r pwysau i gael y fuddugoliaeth gartref gyntaf honno, ein bod wedi sylweddoli sut mae angen i ni fod o safbwynt perfformiad.

“Os gallwn droi cwpl o’r gemau cyfartal yn fuddugoliaethau, yna efallai y byddwn yn edrych ar bethau’n wahanol.

“Bydd dydd Gwener yn allweddol nawr, os gallwn gael buddugoliaeth yna byddwn mewn sefyllfa dda,” ychwanegodd.

“Yna, pan fyddwn yn dod yn ôl (ar ôl y saib rhyngwladol), bydd gennym gyfnod prysur arall yn dod ddiwedd mis Tachwedd a hyd at gyfnod y Nadolig.”

Bydd y gic gyntaf am chwech o’r gloch heno (Tachwedd 6).