Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi canmol ysbryd ei dîm er iddyn nhw golli gartref o 1-0 yn erbyn Bristol City neithiwr (nos Wener, Tachwedd 6).
Sgoriodd Chris Martin unig gôl y gêm yn yr ail funud wrth i’r ymwelwyr godi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.
Daeth y gôl fuddugol oddi ar ei ben yn dilyn croesiad isel gan Antoine Semenyo i mewn i’r cwrt cosbi.
Cafodd yr Adar Gleision 17 ergyd, ond dim ond pump ohonyn nhw ar y targed, ac fe gawson nhw 11 cic gornel.
Dim ond tair buddugoliaeth maen nhw wedi’u cael ers dechrau’r tymor, a dim ond un ar eu tomen eu hunain.
Maen nhw’n 13eg yn y tabl ac mae’r pwysau ar y rheolwr yn cynyddu ond mae’n gwrthod mynd i banig ynghylch y sefyllfa.
“Rhaid i fi fod yn onest – dwi wedi siomi’n llwyr,” meddai.
“Dw i’n teimlo fel pe bai fy waled wedi cael ei ddwyn allan o’m poced.
“Ni oedd y tîm gorau o bell ffordd.
“Fe wnaethon ni ddominyddu’r gêm, y bêl ac fe gawson ni’r cyfleoedd gorau.
“Mae’n gêm y gallen ni ac y dylen ni fod wedi’i hennill.
“Rhaid i ni amddiffyn yn well. All hynny ddim parhau i ddigwydd.
“Rydyn ni wedi creu digon o gyfleoedd i ennill dwy neu dair gêm a rhaid i ni ddod o hyd i fin clinigol.
“Roedd peth o’n pêl-droed yn rhagorol ac mae’n fy nrysu i sut na wnaethon ni ennill y gêm.
“Mae ein perfformiadau ni’n gwella’n enfawr a byddwn ni’n cael canlyniadau.
“Does dim panig o gwbl o’m rhan i.”