Dydy tîm pêl-droed Abertawe “ddim yn ofni neb” yw neges y rheolwr Steve Cooper ar drothwy’r gêm oddi cartref yn Norwich yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 7).

Mae’r Elyrch yn drydydd yn y tabl, un pwynt ar y blaen i’r Caneris, oedd wedi gostwng o Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor diwethaf ac sy’n ddi-guro yn eu chwe gêm diwethaf, gan gynnwys pedair buddugoliaeth.

Ond mae’r Elyrch hefyd yn ddi-guro mewn pum gêm, ar ôl curo Stoke a Blackburn, a chael gemau cyfartal yn erbyn Coventry, Bristol City a Brentford.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd e’n brawf anodd iawn, roedden nhw yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf ac wedi cael ymgyrch gref yn y Bencampwriaeth y flwyddyn gynt,” meddai Steve Cooper.

“Mae tipyn o’r un strwythur a’r hyfforddwr yn eu lle o hyd, felly mae tipyn o’r hunaniaeth yna o hyd ac maen nhw’n dîm sy’n ymrwymo i hynny.

“Felly bydd hi’n gêm anodd, ond dw i’n credu ei bod hi’n dod ar adeg dda i ni ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen at fynd yno ac ymrwymo i’r gêm.

“Byddwn ni’n barod amdani, gan fod y rhain yn gemau mae’n rhaid i chi edrych ymlaen atyn nhw.

“Dydyn ni ddim yn ofni neb.

“Rydyn ni’n gafael yn yr heriau sydd o’n blaenau ni, hyd yn oed ar ddiwedd y cyfnod prysur hwn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr ati.

“Byddwn ni’n ceisio ymosod â phopeth sydd gyda ni, oherwydd dyna’r bwriad i ni bob amser.”