Mae banciau bwyd Manceinion yn annog dau glwb pêl-droed y ddinas i gynnig y cyflog byw i’w gweithwyr.

Daw’r alwad yn dilyn ymdrechion Marcus Rashford, un o chwaraewyr Manchester United, i dynnu sylw at dlodi plant yng nghyd-destun bwyd, sydd wedi gwaethygu yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl Matt Stallard, cadeirydd banc bwyd y ddinas, dydy nifer fawr o’r bobol sy’n manteisio ar y gwasanaeth ddim yn ennill cyflog sy’n cyfateb i’r cyflog byw, sef £9.30 yr awr (£10.75 yn Llundain).

Mae disgwyl i’r swm gynyddu yr wythnos nesaf yn ystod Wythnos y Cyflog Byw.

Mae banciau bwyd Manceinion wedi ysgrifennu at y ddau glwb yn galw arnyn nhw i adolygu’r sefyllfa ac i fabwysiadu’r cyflog byw er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff yn ei dderbyn.

Y llythyr

Mae’r llythyr wedi cael ei gyfeirio at Ferran Soriano ac Ed Woodward, prif weithredwyr y clybiau.

“Mae’r ddau glwb wedi’u caru gan gynifer o bobol yn y ddinas, ac mae nifer wedi cael eu hysbrydoli gan y gwaith hanfodol mae eich clybiau wedi’i wneud yn ystod y pandemig, yn enwedig yr ymgyrch anhygoel dan arweiniad Marcus Rashford MBE i herio tlodi bwyd plant,” meddai’r llythyr.

“Ond y realiti yw fod cynifer o’ch staff eich hunain, gan gynnwys staff arlwyo a glanhawyr, yn ei chael hi’n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd oherwydd dydyn nhw ddim yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol.”

Dim ond bump o glybiau yn yr Uwch Gynghrair – Everton, Lerpwl, West Ham, Chelsea a Crystal Palace – sy’n cynnig y cyflog byw i’w gweithwyr.

“Mae Marcus Rashford MBE wedi uno dinas o gochion a gleision wrth gefnogi ei ymgyrch wych yn erbyn tlodi plant,” meddai Conor McGurran, cyd-gadeirydd Dinasyddion Manceinion Fwyaf.

“Tra bod Manchester City a Manchester United ill dau yn gwneud cryn dipyn o waith gwerthfawr yn ein cymunedau, mae yna un cam syml y gallai’r ddau glwb ei gymryd i leihau tlodi plant yn ein dinas.

“Mae wedi’i brofi fod y cyflog byw go iawn yn codi teuluoedd allan o dlodi – dyna pam fod Dinasyddion Manceinion Fwyaf yn galw ar ein dau glwb llwyddiannus a chyfoethog i gael eu hachredu ar gyfer y Cyflog Byw.”

Y cyfnod clo

Fe wnaeth y ddau glwb barhau i dalu staff yn llawn yn ystod y cyfnod clo cyntaf ar ddechrau’r flwyddyn yn hytrach na throi at y cynllun ffyrlo.

Fe wnaeth Manchester United, ar y cyd â sefydliad y clwb ac elusen FareShare, ddosbarthu 5,000 o brydau bwyd yn ystod hanner tymor yr hydref i blant oedd yn gymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim yn yr ysgol

Maen nhw’n dweud bod cyflogau eu staff yn amrywio yn ôl eu swyddi, ond fod pob aelod o staff llawn amser neu ran amser yn derbyn y cyflog byw.

Dywed Manchester City bod pob aelod o staff cyflogedig a staff dros dro ar ddiwrnodau gemau yn derbyn y cyflog byw, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi mabwysiadu’r cynllun cyflog byw eto ac y bydd yr unig ran o’u busnes nad yw’n cynnig y cyflog byw yn ei gynnig ar ôl diweddaru’r cytundeb presennol.