Collodd Abertawe o 1-0 yn Norwich yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 7), tra bod Casnewydd drwodd i ail rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl curo Leyton Orient o 2-1.

Norwich 1-0 Abertawe

Llwyddodd yr Elyrch i bara 84 munud yn Carrow Road cyn i Marco Stiepermann daro’r ergyd fuddugol i’r rhwyd.

Bu’n rhaid i Tim Krul, golwr Norwich, wneud sawl arbediad allweddol i gadw’r Elyrch allan, ond fe fyddan nhw’n teimlo y dylen nhw fod wedi cipio pwynt oddi cartref.

Mae’r canlyniad yn codi Norwich i’r trydydd safle, tra bo’r Elyrch yn llithro i’r chweched safle.

Leyton Orient 1-2 Casnewydd

Aeth yr Alltudion ar y blaen oddi cartref wrth i Ashley Baker rwydo ar ôl i’r golwr Lawrence Vigoroux golli’r meddiant y tu allan i’r cwrt cosbi, a daeth yr ergyd o 40 llathen i Baker gael hawlio’i gôl gyntaf.

Ond tarodd y tîm cartre’n ôl drwy Hector Kyprianou bedair munud yn ddiweddarach, a hwnnw hefyd yn sgorio’i gôl gyntaf i’w glwb.

Tarodd Jamie Devitt, sydd ar fenthyg o Blackpool, y postyn cyn rhwydo’r gôl fuddugol ar ôl 76 munud.