Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd y clwb yn “cadw llygad” ar anaf Ben Cabango wrth deithio i Norwich – a hynny ar drothwy tair gêm Cymru.

Mae’r Elyrch yn teithio i herio’r Caneris yfory (dydd Sadwrn, Tachwedd 7), cyn i’r tîm cenedlaethol wynebu’r Unol Daleithiau nos Iau (Tachwedd 12), Gweriniaeth Iwerddon (Tachwedd 15) a’r Ffindir (Tachwedd 18).

Daeth Cabango oddi ar y cae wrth gynhesu ar gyfer y gêm yn Brentford, ac fe ddywedodd y rheolwr ar y pryd y byddai’n rhaid i’r clwb aros i glywed mwy.

Ac fe ddywedodd Steve Cooper wrth golwg360 fod yn rhaid i’r clwb ei fonitro’n barhaus oherwydd ei hanes o gael anafiadau, yn benodol y torllengig (hernia).

“Mae pawb yn gwybod fod ganddo dorllengig sydd, croesi bysedd, ddim yn rhy ddrwg ar hyn o bryd a ddim yn achosi unrhyw broblemau iddo fe,” meddai.

“Felly mae e’n chwaraewr mae’n rhaid i ni ei reoli, fyddwn i ddim yn dweud yn ofalus, ond yn sicr rhaid ei fonitro.

“Ond mae Ben yn broffesiynol iawn ac yn gwneud ei bethau ychwanegol y tu hwnt i’r ymarferion a’r rhaglenni personol rydyn ni’n eu darparu.

“Mae Ben yn broffesiynol iawn ac yn ymfalchïo yn ei statws ym mhob agwedd.

“Ond eto mae’r math hyn o beth yn digwydd gyda llawer o chwaraewyr sy’n rheoli sefyllfaoedd bach dydy pobol ddim yn gwybod amdanyn nhw.

“Felly ie, cadw llygad ar Ben ar hyn o bryd, ond rydyn ni’n ei fonitro fe’n barhaus beth bynnag.”

Sefyllfa Cymru

Yn ôl Steve Cooper, mae sefyllfa Ben Cabango gyda Chymru’n dibynnu i raddau ar ei argaeledd i’r Elyrch yfory.

“Rydyn ni’n mynd i roi pob cyfle iddo fe,” meddai.

“Yn amlwg, mae amser y gynhadledd heddiw ychydig yn wahanol i’r arfer felly dydy’r chwaraewyr ddim wedi dod i mewn eto.

“Ond dw i ddim yn meddwl y bydd e cynddrwg ag y gallai fod wedi bod wrth i rywun gerdded i ffwrdd ag anaf i linyn y gâr.

“Mae ychydig yn aneglur ar hyn o bryd, felly rydyn ni am roi pob cyfle iddo fe, a gobeithio y bydd e ar gael ond byddwn ni’n darganfod mwy yn nes ymlaen.

“Bydd pawb yn cael eu monitro ond yn amlwg, o ran Ben, mae ychydig yn fwy difrifol a byddwn ni’n darganfod a fydd e ar gael i chwarae, i fod ar y fainc neu beidio.

“Wnawn ni ddim cymryd risg gyda chwaraewyr, yn enwedig o ran anafiadau i’r cyhyrau, oherwydd rhaid i ni gael pawb ar gael gymaint â phosib drwyddi draw, sy’n mynd i fod yn anodd oherwydd natur yr amserlen.

“Ond mae’n dibynnu ar ei argaeledd i Abertawe yn y lle cyntaf.

“Hynny sy’n dod gyntaf ac fe wnawn ni groesi’r peth pan ddaw.”