Mae Owain Fôn Williams a Gareth Bale yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.

Cafodd Gareth Bale ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer y gemau rhyngwladol fis Hydref er mwyn iddo gael gweithio ar ei ffitrwydd ar ôl dychwelyd i Spurs o Real Madrid.

Gan fod Wayne Hennessey ac Adam Davies wedi’u hanafu mae Cymru wedi galw dau gôl-geidwad newydd i’r garfan.

Owain Fôn Williams, a oedd yn aelod o garfan tîm pêl-droed Cymru ar gyfer Ewro 2016, a gôl-geidwad Casnewydd Tom King sydd yn cymryd eu lle.

Dyma’r tro cyntaf i Owain Fôn Williams fod yng ngharfan Cymru ers 2017.

Ramsey allan

Er iddo gael ei gynnwys yn wreiddiol, mae Aaron Ramsey wedi tynnu’n ôl o’r Garfan ar ôl cael anaf wrth chwarae i Juventus yng Nghynghrair y Pencampwyr ddydd Mercher.

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod Ramsey wedi tynnu’n ôl o’r sgwad, gan drydar: “Yn dilyn sgan yn rhoi cadarnhad o’i anaf, mae Aaron Ramsey wedi tynnu’n ôl o’r garfan.”

Dau o Gasnewydd

Mae gan Gasnewydd ddau chwaraewr yn y garfan am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd. Y chwaraewyr yw’r golgeidwad Tom King, sy’n ddi-gap ond sydd wedi bod yn y garfan o’r blaen, a Josh Sheehan, sydd â 12 o gapiau i Gymru dan 21, ond sydd yn y garfan lawn am y tro cynta.

Fydd y rheolwr Ryan Giggs ddim wrth y llyw ar gyfer gemau nesaf tîm pêl-droed Cymru ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi gwir niwed corfforol.

Robert Page fydd yn arwain y tîm yn ei absenoldeb ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau (Tachwedd 12), Gweriniaeth Iwerddon (Tachwedd 15) a’r Ffindir (Tachwedd 18).

Fodd bynnag mae’n debyg mai Ryan Giggs sydd wedi dewis carfan tîm pêl-droed Cymru ar gyfer gemau mis Tachwedd.

Y gemau sydd ar y gweill

Bydd Cymru yn herio’r Unol Daleithiau mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar nos Fercher 12 Tachwedd.

Bydd honno’n wythnos brysur: Ar ôl UDA, byddant yn chwarae eu dwy gêm olaf yng ngrŵp B4 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar nos Sul 15 Tachwedd â’r Ffindir ar Nos Fawrth 18 Tachwedd. Stadiwm Dinas Caerdydd fydd y lleoliad ar gyfer y ddwy gêm yna.

Dyma fydd yr ail dro erioed i Gymru gwrdd â’r UDA, a’r tro cyntaf iddynt chwarae yng Nghymru. Yr Americanwyr oedd yn fuddugol yn y gêm flaenorol, wrth iddyn nhw ennill o ddwy gôl i ddim yn Stadiwm Spartan yn San Jose, ym mis Mai 2003.

Bydd pob gêm yn fyw ar S4C.